Fel adroddwyd yn rhifyn diwethaf Yr Ysgub, Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin oedd enillwyr Gŵyl Bantomeim Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn â'u pantomeim 'The Greatest Show on Earth'. Yn ddiweddar, teithiodd aelodau'r clwb i Bort Talbot i gynrychioli'r Sir yng Ngŵyl Bantomeim Cymru-gyfan. Llwyddodd y clwb i ennill yr ail wobr, gyda chanmoliaeth uchel. Uchod ceir llun o rai o aelodau'r clwb a oedd yn rhan o'r pantomeim, a chefnogwyr y clwb, yn dilyn eu llwyddiant yn Theatr Hafren yn y gystadleuaeth sirol fis Chwefror, ynghyd â beirniad y gystadleuaeth.
Meddai Cadeirydd Ffederasiwn CFfI y Sir, Jonathon Pryce, "Mae pobl ifanc Sir Drefaldwyn yn ddawnus tu hwnt, a thrwy ennill gwobrau ar lefel mor uchel maent yn cael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu."Hefyd, enillodd Calum Vaughan o CFfl Llanfyllin yr Actor Gorau yn y Gystadleuaeth - llongyfarchiadau arbennig iddo ef. Dymuna'r Ysgub longyfarchiadau mawr i'r clwb, ei aelodau a'i gefnogwyr ar y llwyddiant hwn.
 |