Mae Tegla'n dyfynnu'r cwpled yma i ddisgrifio'i gyfnod yn weinidog ym mhen uchaf Dyffryn Tanat yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Ac mae hi dal felly hyd heddiw. Er bod yna ryfeloedd a sôn am ryfeloedd yn ein byd ac er bod cysgod rhai ohonynt dros rai teuluoedd yn y dyffryn, eto i gyd mae yna heddwch a Ilonyddwch i'w gael yma. I ni drigolion Dyffryn Tanat cymryd harddwch y Ile'n ganiataol a wnawn wrth fynd o gwmpas ein dyletswyddau bob dydd. Does dim amser i oedi a mwynhau'r golygfeydd o'n cwmpas, i'r Ilu o ymwelwyr a fydd yn gwibio trwy'r dyffryn ar nos Wener ar eu ffordd o ganolbarth Lloegr dros y Berwyn a thua'r arfordir, rhywle i basio heibio ydy Dyffryn Tanat. Er mwyn tynnu sylw at yr hyn sydd gan y dyffryn i'w gynnig, dyma gyhoeddi "Teithlyfr Dyffryn Tanat". Noson arbennig felly oedd nos Wener 26ain Mawrth yn Ysgol Gynradd Llanrhaeadr ym Mochnant i lansio'r Ilyfryn dwyieithog yma. Hyfryd oedd cael ein croesawu i neuadd yr ysgol gan seiniau tannau telyn Elizabeth Bickerton. Llywyddwyd noson y lansio gan Claire Owen o Fenter Maldwyn a roddodd gefndir y cynllun ac a gyflwynodd Mr Gareth Vaughan Williams, (neu Gareth, Powys fel y gelwir ef yn y Llan) i annerch y gynulleidfa. Daeth criw o bobl at ei gilydd ym mis Hydref 2008 o ganlyniad i dri chyfarfod a gynhaliwyd yn Llansilin, Penybontfawr a Llanrhaeadr. Menter laith Maldwyn oedd yn gyfrifol am y cyfarfodydd hyn fel man cychwyn prosiect treftadaeth iaith Dyffryn Tanat. Penderfynwyd Ilunio teithlyfr ar gyfer y dyffryn o Benybont Llanerch Emrys i Langynog gyda theithiau cerdded o gwmpas y pentrefi mwyaf sef, Llansilin, Llanrhaeadr ym Mochnant, Penybontfawr a Llangynog. Gwahoddwyd Gareth Vaughan Williams i olygu'r Ilyfryn - un sydd a'i wreiddiau yn ddwfn yn y pentref. Jonathan Greatorex fu'n gyfrifol am holl Iuniau'r Ilyfryn. Balch oeddem o gael croesawu'r prifardd Penri Roberts i'r noson ac fe dynnodd ein sylw at ddau lyfryn oedd yn drysorau iddo. Un oedd "Hanes plwyf Llanrhaeadr" gan Silas Evans a'r Ilall oedd rhaglen cyfarfod i ddathlu bywyd Ceiriog a gafodd gan Nansi Richards. Beth sy'n hynod ynglyn a'r olaf ydy bod Nansi wedi casglu Ilofnodion pobl flaenllaw Cymru ynddo. Yna cyflwynodd Penri anrheg i Gareth - sef Ilun o Bistyll Rhaeadr a cherdd a gyfansoddwyd ganddo i'r pistyll, a'r cwbl wedi ei fframio'n gywrain. Clo gwerth chweil i'r noson yn wir. Cafwyd cyfle i gymdeithasu wrth fwynhau gwledd a baratowyd gan Marian Morris, a chyfle wrth gwrs i brynu'r teithlyfr. Os nad ydych wedi mynnu copi o'r teithlyfr maent ar gael yn y siopau Ileol, a'r canolfannau twristiaid. Fe gewch dipyn i gnoi cil arno. Fe ddysgais i gryn dipyn beth bynnag.
 |