| Ar ôl dod i weithio yng Nghymru yn ddiweddar dwedodd Mark Kerr ei fod yn credu ei bod hi'n bwysig gwneud yr ymdrech i ddysgu'r iaith. Mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu Cynllun laith sy'n amlinellu bwriad y Cyngor i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Cyngor yn annog pobl i ddefnyddio'u Cymraeg wrth ddelio â'r Cyngor - boed ar lafar, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, neu'n ysgrifenedig (wrth Iythyru neu wrth lenwi ffurflenni). Mae taflenni sy'n cynnwys enwau a rhifau ffôn rhai o swyddogion y Cyngor sy'n siarad Cymraeg ar gael mewn Ilyfrgelloedd neu oddi wrth Craig Duggan, Swyddog laith y Cyngor, trwy ffonio 01597 826467. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor hefyd yn chwilio am Gymry Cymraeg i fod yn rhan o banel sydd ar gael o dro i dro i roi barn ar wasanaethau a blaenoriaethau'r Cyngor. Mae Panel y Dinasyddion yn cynnwys wyth gant o aelodau o drefi a phentrefi ar draws y sir. Yn achlysurol, fe fydd y Cyngor yn gofyn i aelodau'r panel rhoi eu barn ar faterion penodol trwy lenwi holiadur byr. Ar adegau defnyddir dulliau eraill i gasglu barn, er enghraifft trwy drefnu grwpiau ffocws neu drwy alwadau ffon. Mae'r wybodaeth a gesglir o'r gwaith ymgynghori yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio i geisio gwella gwasanaethau'r Cyngor trwy ymateb i sylwadau'r cyhoedd. Does yna ddim pwysau ar aelodau o'r panel i gymryd rhan bob tro y bydd Y Cyngor yn cysylltu - os nad yw'n gyfleus ar y pryd, dwedwch hynny, ac fe gewch lonydd. Mae'r holl wybodaeth sydd gan y Cyngor ynglŷn ag aelodau'r panel yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel neu os dymunwch gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â John Thomas ar 01597 826 772 neu e bostiwch john.thomas@powys.gov.uk. Yn y lIun gwelir (o'r chwith i'r dde): Manna Davies (Uned Gymraeg y Cyngor), Delyth Hallows (Tiwtor Cymraeg), Mark Kerr (Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys), Craig Duggan (Swyddog laith), Elin Williams (Tiwtor Cymraeg), Bedwyr Fychan (yr Uned Gymraeg).
 |