Roedd bwrlwm pleserus yn Nhonnau Oriel y Mor Pwllheli ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 4ydd pan agorwyd Arddangosfa Gelf o waith arlunwyr yn cynnwys Catrin Evans, Penyffordd Llanfihangel yng Ngwynfa, ac roedd cynrychiolwyr o wlad Yr Ysgub yn bresennol a chafwyd llun o Catrin gyda'i gwaith hyfryd. Astudiodd Catrin gwrs sylfaen yng Ngholeg Menai ym Mangor
Ile cafodd traethau cyfagos Pen Llyn gryn ddylanwad arni fel y gwelwyd yn y casgliad yn yr arddangosfa. Defnyddia baent olew yn bennaf, gan weithio pastel i mewn iddo, yn ogystal â math o lud PVA yn gymysg a phaent i greu Iluniau Iliwgar llawn awyrgylch. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi fynd yn yr hydref i Gaerdydd i gwblhau ei chwrs gradd.
 |