Llongyfarchiadau i Sioned Owens, Sarphle, Llanarmon Dyffryn Ceiriog - aelod o CFfl Dyffryn Tanat - ar ennill y wobr am yr Actores Orau yng Nghystadleuaeth Ddrama CFfI Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Neuadd Ddyfi, Aberdyfi.
Roedd Sioned yn aelod o gast drama Gymraeg CFfI Dyffryn Tanat, a oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Ddrama CFfI Maldwyn yn gynharach ym mis Chwefror.
Cafodd y ddrama, "Lle Bo Camp Bydd Rhemp" gan Gwion a Meinir Lynch, Llangwm, ei gynhyrchu gan Rheinallt Hughes, Tuhwnti'rafon, Llanarmon, a thim o gynorthwywyr a oedd yn cynnwys Lown Roberts, Bryndreiniog; Gareth Evans, Frongoch; Aled Davies, Tybrith; Rhys a Rhiannon Vaughan, Maesmochnant; Catrin Crawshaw, Dolwen; Nesta Lloyd, Y Waun, Sara Mair Jones, Rhosllannerchrugog a Liz Hughes, Tuhwnti'rafon.
Mrs Mair Penri Jones oedd beimiad y gystadleuaeth sirol, a chafodd y ddrama cryn glod ganddi.
Yn ogystal ag ennill y gystadleuaeth sirol, cafodd Sioned y wobr am yr actores orau dros 21 oed, y perfformiad mwyaf doniol, a'r actores orau yn gyffredinol - "clean sweep" go iawn!
Llongyfarchiadau hefyd i CFfI Llanfyllin, a gafodd yr ail wobr yn y gystadleuaeth sirol am ddrama dan gyfarwyddiaeth Eleri Llwyd Jones, Llanfyllin.
Wedi'r Ilwyddiant sirol cafodd aelodau'r clwb y fraint o gynrychioli'r sir yn y gystadleuaeth genedlaethol.
Y beimiad oedd Ffion Bowen, Aberystwyth o Gwmni Theatr Arad Goch, ac eto cafodd y ddrama ganmoliaeth uchel oanddi.
Yn ei beirniadaeth. cvfeiriodd Ffion at y ffaith bod cymaint o ferched yn actio'n wych yn y 6 drama a fu'r cystadlu yn Aberdyfi, felly cyflwyniad gwych oedd i Sioned ennill y wobr an yr actores orau, a oedd yn rhoddedig gan Undeb Amaethwyr Cymru Ilongyfarchiadau i ti!
Cafodd ddrama'r bedwaredd wobr yn gystadleuaeth genedlaethol.
Yr enillwyr oedd Ffederasiwn Brycheiniog a oedd yn cystadlu yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Y cystadleuwyr eraill oedd CFfl Caerwedros, Ceredigion CFfl Dinas Mawddwy, Meirionnydd CFfl Llangadog, Sir Gar a CFf Llysyfran, Sir Benfro.
Bu aelodau eraill o CFfl Dyffryn Tana yn cystadlu yng Nghystadleuaett Ddrama Saesneg y Sir, dar gyfarwyddiaeth Maralene Griffiths Llansanffraid a Geraint Davies, Tybrith Llanrhaeadr YM. Cafodd y ddram, honno cryn ganmoliaeth gan y beirniaid hefyd.