Pleser arbennig oedd bod yn bresennol i'r cadeirio yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn y Trallwm brynhawn Sadwrn Hydref 24ain. Gwrando i gychwyn ar feirniadaeth feistrolgar a difyr Aled Lewis Evans. Roedd safon uchel i'r gystadleuaeth meddai, a rhoddodd sylwadau ar y pum Awdl ac un Bryddest a gyfansoddwyd ar y testun 'Yfory'. Cyn dyfarnu mai awdl 'Un Llais' oedd yn deilwng o Gadair Eisteddfod Powys Y Trallwm, a bod ynddi hi gynildeb darluniau hyderus ac unoliaeth a rhyw urddas arbennig with ddarlunio brwydr caethweision America i ennill eu rhyddid. Rhoddodd 'breuddwydio' Dr Martin Luther King obaith i'w yfory i gychwyn cyn dyfodiad Barrack Obama yn Arlywydd y wlad. Wedi dechrau gyda'r geiriau: ¬
"Ai aros am yfory
Bu'r caethion a'r dynion du?" mae'n diweddu,
"daw yfory a'i adferiad 'fory cryfhau a hau'r had 'fory newid cyfeiriad." Does ryfedd bod tensiwn yn Theatr Clera pan alwodd y Derwydd Gweinyddol ar i 'Un Llais' sefyll ar ei draed ar alwad y Corn Gwlad a'r fath lawenhau pan safodd Robin Hughes o Lanfyllin ar ei draed! Gŵr a'r ardal gyfan yn ei hawlio ac nid Llanfyllin yn unig, ac nid fel bardd yn unig chwaith and fel gŵr galluog, athro, golygydd Yr Ysgub, caligraffwr, garddwr, capelwr ac yn fwy na dim yn briod a thad a thaid annwyl a chyfaill a chymwynaswr parod a diflino. Ac o'r naw cadair ar hugain a enillodd does un fydd yn ei drysori'n fwy na Chadair Eisteddfod Powys. Llongyfarchiadau cywir iddo a rhwydd hynt yn y dyfodol.
 |