Er bod rôl Wyn wedi newid ychydig dros y blynyddoedd, mae'n parhau i edrych ar ôl buddiannau ffermwyr a thyfwyr NFU Cymru o'i swyddfa yn Llanfair Caereinion, mae hefyd yn hybu gwasanaethau NFU Mutual yn Sir Drefaldwyn. Pan gyflwynwyd y wobr i Wyn meddai, "Pan gychwynnais yn fy rôl fel Ysgrifennydd Grŵp, ni fyddai unrhyw beth wedi gallu fy mharatoi ar gyfer yr hyn a oedd o'm blaen! Rhan orau'r rôl yw mynd allan a chyfarfod a ffermwyr wyneb wrth wyneb ar eu ffermydd a gallu eu cynorthwyo a'u hanghenion busnes. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gyfarfod a Ilawer o gymeriadau gwych dros y blynyddoedd." Mae Wyn yn talu teyrnged i'w holl gydweithwyr, ar hyn o bryd ac yn y gorffennol, sydd wedi chwarae rhan fawr yn ei yrfa. Mae'n teimlo'n sicr y bydd amaethyddiaeth yn goroesi. "Mae angen ffermio nawr, mwy nag erioed, yn enwedig a bygythiad newid hinsawdd a galw byd-eang am fwyd sy'n tyfu. Bydd NFU Cymru yn tyfu gydag of ac yn hyrwyddo buddiannau ffermwyr yn y ganrif sydd ar ddod," meddai. Gan longyfarch Wyn, dywedodd David Jones, "Mae Wyn eisoes wedi rhoi rhan sylweddol o'i fywyd gwaith i edrych ar 61 buddiannau ei aelodau a gyda chymaint o brofiad mae'n deal yr hyn sy'n bwysig i alluogi ffermwyr i wneud yn siwr bod eu busnesau'n Ilwyddiannus." "Mae'r diwydiant wedi newid yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf and mae Ilwyddiant anhygoel Wyn yn brawf o'i allu i symud ag amseroedd sy'n newid ac ateb yr heriau mae newid yn eu gosod." Mae Wyn Jenkins, yn byw ger Llanfyllin, ac yn mwynhau ffermio ar fferm y teulu gyda'i wraig Rhian a'r plant Emma a Rhys.
 |