Mae Menter Maldwyn yn falch o gyflwyno Gŵyl Tân Tanat 2005 fydd yn cael ei chynnal yn Llanrhaeadr ym Mochnant ar 17 a 18 o Fehefin, 2005. Mi fydd y rhan fwyaf o'r hwyl i'w gael mewn pabell fawr ar faes pêl-droed Llanrhaeadr ym Mochnant gyda artistiaid megis Meinir Gwilym, Lisa Pedrig a Strap the Button ar nos Wener 17 o Fehefin ac mi fydd Kentucky AFC, Y Sibrydion, Caves, Poppies, Blue Room, Moses Eats Cheese yn perfformio yn ystod prynhawn a nos Sadwm 18 o Fehefin. Mi fydd adloniant i blant hefyd ar gael yn ystod y prynhawn ar y dydd Sadwrn. Yn ogystal â hyn mi fydd math arall o ddiwylliant ar gael yn nhafarn y Plough, Llanrhaeadr ar y prynhawn Sadwrn gyda'r Prifardd Iwan Llwyd a Mei Mac yn cynnal sesiwn farddonol ac mi fydd sesiwn o gerddoriaeth werin i ddilyn yng ngofal Hogiau'r Gororau, felly os ydych am ymuno yn yr hwyl dewch â'ch ffidls a'ch borans gyda chi! Y gobaith yw codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg i drigolion Dyffryn Tanat a hefyd codi proffil Dyffryn Tanat tu allan i'r ardal trwy ddenu pobl i mewn i'r ardal. "Mae tîm o bobl leol wedi bod wrthi'n trefnu'r Ŵyl ers misoedd ac mae'n enghraifft dda o bobl yn gweithio dros eu cymuned. Y gobaith yw cynnal rhywbeth tebyg eto yn 2006 os fydd digwyddiad 2005 yn llwyddiant a gyda rhai o artistiaid gorau Cymru yn ymddangos, mi ddylai'r penwythnos fod yn Ilawn o uchafbwyntiau.", medd Euros Richards, o Fenter Maldwyn sydd wedi bod yn cydlynu'r trefniadau. Am ragor o fanylion ffoniwch Menter Maldwyn ar 01686 622908 neu e-bostiwch euros@powys.gov.uk
 |