BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Ysgub
Bocs adarGarddio er budd bywyd gwyllt
Mai 2008
Colofn cefn gwlad Barrie Humphreys.

Mae cynefinoedd lle y gall planhigion ac anifeiliaid gwyllt fyw ynddynt dan fygythiad gan ddatblygiad ac amaethu dwys mewn llawer i ardal ym Maldwyn. Gall gerddi a rhandiroedd fod yn hafan i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt.

Corneli Gwyllt
Er mwyn i ardd fod yn atyniadol i fywyd gwyllt mae angen digon o amrywiaeth o ran planhigion a thirwedd. Bydd gardd llawn gwair wedi ei dorri'n fân, palmantu a gwelyau blodau di-chwyn yn llai atyniadol nag un sydd ag ambell 'gornel wyllt'. Nid oes angen i fannau gwyllt fod yn fawr, a gallant fod yn ddim ond llecyn o wair sydd ond yn cael ei dorri unwaith neu ddwywaith y flwyddyn (fydd ymhen amser yn gartref i flodau gwyllt, pryfed ac anifeiliaid bychain) ambell i goeden a llwyn brodorol (hynny yw, mathau o goed a llwyni sy'n tyfu'n naturiol yn lleol) pwll bychan; mae tiroedd gwlybion yn un o'r cynefinoedd sydd dan fwyaf o fygythiad ar draws y byd.
Peidiwch a bod yn rhy daclus!
Os oes modd, peidiwch a llosgi 'gwastraff' gardd, mae llosgi'n hybu cynhesu byd-eang ac yn gwastraffu 'bwyd' gardd werthfawr. Dylech gompostio gwastraff meddwl a thorri gwastraff mwy gwydn yn fân a'i ddefnyddio ar gyfer taenu dan blanhigion neu i greu pentyrrau 'cynefin'. Bydd pentyrrau disylw o dorion gwrych wedi eu gadael i bydru'n hybu toreth o ffyngau, pryfed ac adar sy'n bwydo arnynt.

Anelwch at gael blodau yn eich gardd trwy'r flwyddyn. Ceisiwch gael o leiaf un planhigyn sy'n denu bywyd gwyllt i flodeuo bob mis, er mwyn i chi gael mwynhad ac er mwyn i'r pryfed gael neithdar.

Gosodwch focs adar - gyda waliau sydd o leiaf 1 fodfedd/2.5cm o drwch - mewn man cysgodol sy'n wynebu'r dwyrain ac sydd allan o gyrraedd cathod.

Beth am i chi gloddio pwll dŵr yn eich gardd? Fe fydd yn siŵr o ddenu bywyd gwyllt os nad oes yna bysgod ynddo, os ydi'r ochrau'n disgyn yn raddol ac os ydi'n cynnwys nifer o blanhigion.

Bwydwch yr adar - mae'n iawn eu bwydo nhw trwy'r flwyddyn. Fe wnân nhw fwyta pryfed gleision oddi ar eich planhigion wrth ddisgwyl eu tro wrth y bwrdd adar!

Gadewch i'r eiddew dyfu - mae'n rhoi cysgod 1 adar ac yn cynhyrchu aeron a neithdar yn gynnar yn y gwanwyn.

Plannwch nifer o blanhigion parhaol mewn clwstwr trwchus a gadael iddyn nhw dyfu heb darfu arnyn nhw. Bydd hyn yn galluogi i fadfallod dŵr a llyffantod chwilota am fwyd.

Tyfwch ddanadl poethion mewn twb - mae llawer o löynnod byw yn dodwy eu hwyau ar eu dail, ac fe gewch chi fwy o löynnod y flwyddyn nesaf os bwydwch chi eu lindys.

Tyfwch y planhigion yn y man iawn!

Dilynwch y cyfarwyddiadau er mwyn tyfu planhigion iach, heb heintiau, sy'n fwy deniadol i chi a'ch ymwelwyr gwyllt.

Cewch mwy o löynnod byw, pryfed hofran a gwenyn yn ymweld a'ch gardd os wnewch chi blannu planhigion sy'n eu denu mewn mannau heulog a chysgodol.

Adeiladwch dwmpath o logiau a thomen gompost a fydd yn rhoi cysgod a bwyd i fywyd gwyllt ac yn rhoi maeth yn ôl i'r ardd ac nid i'r domen sbwriel.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy