Cafwyd noson arbennig o dda yn yr Institiwt yn Llanfyllin ar Chwefror 26ain pan gynhaliwyd yr Ymryson Flynyddol rhwng beirdd Yr Ysgub. Dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn yr Institiwt a phawb yn canmol y cyfleusterau a'r cynhesrwydd a'r lle yn Ilawn. Croesawyd pawb i'r noson gan Is Lywydd Y Gymdeithas Gymraeg sef y Parch Gwyndaf Richards (yn absenoldeb y Cadeirydd y Parch Raymond Hughes oedd yn gwledda yn Nyffryn Tanat hefo Merched y Wawr !). Y Meuryn oedd Arwyn Davies neu Arwyn Groe i bawb bellach nid yn unig ym Mhowys and drwy Gymru gyfan a'r byd i gyd pan fydd Jonsi'n dweud am raglenni Radio Cymru. Ac os nad oedd Cymru cael hwyl arni y noson honno yn erbyn Ffrainc roedd Arwyn 'on the ball' chwedl y Sais. Roedd hyd yn oed deunydd gweinidog a phregethwr hen ffasiwn pan adroddodd un o'r darnau a gyflwynwyd gan y beirdd. Yn bendant roedd pawb wedi mwynhau ei sylwadau craff a hwyliog a doniol a'i bwyso a mesur ac yn sicr ei farciau oedd yn creu penbleth ar adegau i Thomas Morris Trewern oedd yn ceisio ymdopi a'r mathemateg. Fel y gwelwch yn y golofn farddol roedd gwaith da iawn wedi cael ei gyfansoddi a'i gyflwyno a'r Meuryn yn canmol y safon i'r entrychion. Roedd y ras yn ddiddorol ac yn hynod o agos ac o drwch blewyn ar y diwedd Rhiwlas oedd yn fuddugol (1001/2 a Ilongyfarchiadau mawr i Huw Nant a'i dim. Heb fod yn y Ilun and wedi cyfrannu at y gwaith roedd Alun Emanuel. Tanat Cain oedd yn ail (100) a Dyffryn Ceiriog yn drydydd (99) a'r tro hwn nid oedd tim o Groesoswallt yn bosibl. Ann Ellis oedd with y drws yn gwerthu tocynnau raffl i bawb a'r enillwyr oedd Dewi Griffiths, Rhiwlas, Llinos Jones Gadair Llanfyllin, Gwenan Thomas Rhiwlas, Llywela Roberts Llanfyllin a Heddys Jones Dyffryn Tanat. Diolchwyd i'r rhoddwyr gwobrau raffl gan Robin Hughes, diolchwyd i'r merched am y swper ardderchog ac i bawb a fu mor hael wrth gyfrannu tuag ato, hefyd i'r merched a weithiodd yn galed yn y gegin gan y Parch Gwyndaf Richards, ac hefyd ddiolchodd i'r Meuryn am ei waith ardderchog, ac i Thomas hefo'r marciau ac i bawb am gefnogi'r noson.
 |