Ar Ragfyr 14eg, bu Charlotte Angharad Butler yn un o'r milwyr a dderbyniodd ei medal am ei gwasanaeth diweddaraf yn Afghanistan fel Parafeddyg.
Derbyniodd ei medal gan Dduges Cernyw Camilla Parker ¬Bowles ym Mulford, ger Salisbury.
Roedd gorymdaith Ilawn disgyblaeth a balchder o filwyr ifanc, rhai mewn cadair olwyn a rhai yn amlwg yn dal i ddioddef o'u hanafiadau.
Roedd teuluoedd y milwyr a gollodd eu bywyd yn ystod eu gwasanaeth yno hefyd. Wrth sefyll yn yr oerni a'r awyrgylch o dristwch yn gymysg a balchder, mae'n siwr fod anialwch a phoethder Ilethol Afghanistan yn teimlo mor bell i ffwrdd.
Ar ddechrau mis Mehefin 2009 yr adawodd Charlotte ei chartref, Tafam y Railway, Penybontfawr, a threuliodd chwe mis yn cefnogi Catrawd y '4 Rifles' fel Parafeddyg.
Roeddynt wedi eu Ileoli ym Masra, Talaith Helmand, un o'r ardaloedd peryclaf, ble oedd swn bomiau a saethu'n rhan o'u bywyd bob dydd.
Roedd rhaid dyfalbarhau mewn tymheredd o 50 gradd ar ei uchaf, a byw yn y ffordd fwyaf sylfaenol.
Collodd Charlotte ffrindiau, gwelodd rhai yn cael eu hanafu'n ddifrifol, ac arbedodd fywydau
Fel cydnabyddiaeth o ddewrder y Gymraes dawel yn hyn o beth, fe'i cyflwynwyd a darn arian gan un o brif Feddygon y fyddin.
Prin iawn ydi'r darnau arian hyn, felly mae cyfraniad Charlotte o fewn ei dyletswydd yn amlwg wedi ei werthfawrogi'n fawr.
Bu Charlotte ei hun mewn perygl ar sawl achlysur -yn wir, ffrwydrodd fom o dan eu cerbyd dair gwaith yn ystod y chwe mis, gan anafu rhai o'i chydweithwyr yn ddifrifol.
Beth fydd y dyfodol i'r Gymraes ddiymhongar hon felly? Yn dilyn nifer o flynyddoedd o wasanaeth efo'r fyddin ers iddi ymadael a'r ysgol, mae Charlotte sydd bellach yn 22 oed, newydd gael dyrchafiad i is-gorporal. Bydd ar wyliau tan y flwyddyn newydd¬ ac yna pwy a wyr?
Wrth ddiolch am gael Charlotte yn of adref, mae ein meddyliau wrth gwrs efo'r milwyr sydd allan yn Afghanistan ar hyn o bryd, a'u teuluoedd hwythau sydd yn treulio cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd mewn profedigaeth neu'n hiraethu.