Cychwynnwyd tymor newydd Cyfeillion Drws Agored yn Festri'r Tabernacl Llanfyllin gydag ymweliad John White, Abertawe, sy'n drefnydd Cymru i Genhadaeth y Gwahangleifion. Croesawyd ef gan y llywydd, y Parch Sue Lawler. Clywsom drwy sgwrs a darluniau am waith arbennig y gymdeithas Gristnogol hon sy'n cynnig gobaith a gwellhad i'r trueiniaid sy'n dioddef o'r afiechyd erchyll hwn. Canolbwyntiodd John ei sgwrs ar ei ymweliad diweddar i'r India gan bwysleisio'r gwaith a wneir i drin y clefyd mewn ysbytai, i gynnig help a gwaith i'r dioddefwyr yn eu cymunedau ac i'w helpu gyda chostau addysg - a'r cyfan yn cael ei wneud yn enw Duw. Gwerthwyd Ilyfrau a chardiau'r Genhadaeth ar ddiwedd y cyfarfod tra roedd yr aelodau'n mwynhau paned a baratowyd gan Decia Blacker a Rhoswen Charles. Codwyd £264 trwy gasgliad a rhoddion tuag at yr elusen a diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau gan y Ilywydd. Ar 7 Hydref bydd Cyfeillion Drws Agored yn dathlu'r Cynhaeaf yng nghwmni Pedwarawd Elltyn. Mae tocynnau ar gael gan Mair Ellis ac aelodau eraill.
 |