A: Dyma beth mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn ei ddweud am gymryd gwyliau teuluol yn ystod amser ysgol:
"Pa bryd bynnag y bo modd, dylech gymryd eich gwyliau yn ystod gwyliau'r ysgol. Ni ddylech fynd â'ch plentyn ar wyliau ar adegau pwysig yn ystod ei addysg. Er enghraifft, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, yn enwedig os yw'n newid ysgol, neu pan ddylai'ch plentyn fod yn sefyll arholiadau neu brofion.
Ni ddylech ddisgwyl i ysgol eich plentyn gytuno y cewch fynd ar wyliau teuluol yn ystod amser ysgol. Bydd yr ysgol yn ystyried eich cais yn ofalus a gallai ystyried cofnod presenoldeb eich plentyn.
Ni fydd ysgolion yn cytuno i adael i'ch plentyn golli mwy na chyfanswm o ddeng niwrnod ysgol ar gyfer gwyliau teuluol mewn unrhyw flwyddyn ysgol, onid oes rheswm da iawn.
Os yw'ch plentyn yn absennol o'r ysgol am fwy na deng niwrnod, gall yr ysgol osod gwaith iddo ef/hi ei wneud tra rydych oddi cartref."