A: Mae tuedd mewn llawer o ysgolion ieithoedd lleiafrifol, iaith ddeuol a dwyieithog, i ddysgu gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae hwn yn bwnc dadleuol ymhlith rhieni ac addysgwyr. Mae'n tueddu i rannu'r rhai hynny sy'n frwd o blaid achub iaith leiafrifol a'r rhai hynny sy'n dadlau mai Saesneg yn ddi-os yw iaith ryngwladol gwyddoniaeth, mathemateg, technoleg a chyfrifiaduro. Mae'n tueddu i wahanu'r rhai hynny sy'n dadlau dros egwyddorion a chynlluniau ieithyddol sylfaenol a'r rhai hynny sy'n bragmatyddion iaith a yn economegwyr iaith marchnad rydd'. Y cyfan y gallwn ei wneud yw cyflwyno'r ddau feddylfryd.
Y rhesymeg dros ddysgu'r pynciau hyn drwy gyfrwng y Saesneg yw bod y rhan fwyaf o'r gwerslyfrau gwyddoniaeth, gwybodaeth wyddonol, astudiaethau coleg a phrifysgol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg (a llawer o bynciau eraill o'r fath fel cymdeithaseg, seicoleg, daeareg) yn Saesneg.
Mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, lle mae llawer o'r cwricwlwm yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw'n anarferol gweld gwyddoniaeth a mathemateg yn cael eu dysgu yn Saesneg gan adlewyrchu'r gwerslyfrau sydd ar gael, y ffaith mai dyma y mae athrawon gwyddoniaeth sydd wedi eu haddysgu yn Saesneg yn ei ffafrio, y ffaith fod yn well gan rai pobl 'feddwl' yn fathemategol yn Saesneg, neu ddim ond traddodiad addysgu. Ond mae rhai'n dadlau nad yw'n syniad da cysylltu gwyddoniaeth a mathemateg ag iaith fwyafrifiol fel Saesneg yn unig.
Beth ydy'r neges gudd? Ydy'r Gymraeg ddim yn ddigon cyfoes? Oes dim modd ei defnyddio ar gyfer gwyddoniaeth a mathemateg? Ydy'r eirfa ar gyfer dysgu gwyddoniaeth a mathemateg ddim yn bodoli? Ai dim ond gyda hanes, diwylliant, traddodiad, straeon gwerin a threftadaeth y mae'r Gymraeg yn gysylltiedig?
Mae diwylliant gwyddonol yn cael ei ystyried yn Eingl-Americanaidd, a rhoddir mwy o statws i'r iaith Saesneg - ai dyma iaith modernrwydd, agweddau pwerus, statws uchel gwyddoniaeth a thechnoleg? Ydy hyn yn golygu bod mwy o werth rhyngwladol i un iaith a llai o werth i ieithoedd lleiafrifol?
Yma yng Nghymru, mae ymdrechion wedi eu gwneud i geisio sicrhau bod modd dysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, cael gwerslyfrau Cymraeg a meddwl yn Gymraeg. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud er mwyn dangos bod y Gymraeg yn gallu addasu i fod yn iaith fodern. Bathwyd geiriau newydd, gan ddarparu ystyr ychwanegol i gysyniad gwyddonol weithiau, a chan fenthyca o ieithoedd eraill dro arall, fel Saesneg, Groeg neu Ladin.