A: Mae oedi ieithyddol yn digwydd pan fo plentyn yn hwyr iawn yn dechrau siarad, neu ymhell ar ôl ei gyfoedion o ran datblygiad iaith. Amcangyfrifir bod oedi ieithyddol yn effeithio ar rhwng 1 o bob 5 ac 1 o bob 20 plentyn ifanc. Mae amcangyfrifon mor amrywiol yn adlewyrchu yn rhannol y ffaith fod rhai achosion o oedi yn fyr ac mai prin y byddech yn sylwi arnynt. Mae eraill yn fwy difrifol.
Mae llawer o bethau gwahanol yn achosi oedi ieithyddol a gallant gynnwys clyw rhannol, byddardod, awtistiaeth, nam ar y golwg, isnormalrwydd difrifol, parlys yr ymennydd, gwahaniaethau corfforol (e.e. tafod hollt), aflonyddiad seicolegol, anawsterau emosiynol, amddifadedd cymdeithasol neu emosiynol sylweddol. Mewn tua dwy ran o dair o'r holl achosion, ni wyddys yr union reswm dros oedi ieithyddol. Nid yw'r dystiolaeth fodd bynnag yn cefnogi'r gred, sydd gan rai gweithwyr proffesiynol hyd yn oed, bod cael cefndir dwyieithog yn gallu arwain at oedi ieithyddol.
Os yw'ch plentyn yn hir yn dechrau siarad neu fynegi ei hun, gofynnwch am gymorth proffesiynol gan therapydd lleferydd ac iaith.