Datblygu o fod yn gynorthwywr dosbarth i fod yn athro
C: Sut all cynorthwywr dosbarth fynd yn athro?
A: Gall cynorthwywyr dosbarth gael hyfforddiant pellach i gael Statws Athro Gymwysedig. Mae 'na wahanol ffyrdd i gael Statws Athro Gymwysedig ond mae'n rhaid cael gradd. Gallwch hyfforddi drwy'r Cynllun Athro Graddedig, y Cynllun Athro Cofrestredig neu'r cwrs cychwynnol ymarfer dysgu ôl-radd.
Os ydych yn bryderus am yr ymrwymiad amser, cofiwch bod hi'n bosib astudio rhan-amser neu i ddilyn cwrs hyblyg, sy'n caniatáu i chi astudio pan mae'n gyfleus i chi. Gallwch hyd yn oed dderbyn eich hyfforddiant tra'n gwneud y swydd, sy'n golygu eich bod yn ennill arian tra'n dysgu. Mae 'na hefyd gyrsiau arbennig ar gyfer graddedigion sy'n awyddus i wneud cynnydd cyflym yn eu gyrfa.