C: Sut allaf i fynd yn athro?
A: Mae 'na wahanol ffyrdd i hyfforddi i fod yn athro - mater i'r unigolyn yw dewis pa ffordd sy fwyaf addas iddyn nhw. I weithio fel athro, mae'n rhaid cael Statws Athro Cymwysedig a bydd angen gradd arnoch i gael y cymhwyster hyn.
I gael Statws Athro Cymwysedig os nad ydych wedi graddio, gallwch ddilyn cwrs israddedig mewn prifysgol. Os oes gradd gennych yn barod, mae 'na gyrsiau ôl-raddedig ar gael. Gallwch astudio llawn-amser, rhan-amser neu ddilyn cwrs hyblyg, sy'n eich caniatáu i hyfforddi ar adegau sy'n gyfleus i chi. Gallwch hyd yn oed hyfforddi wrth wneud y swydd a chael eich talu tra'n hyfforddi. Mae 'na hefyd gyrsiau arbennig ar gyfer graddedigion sy'n awyddus i wneud cynnydd cyflym yn eu gyrfa.
C: Beth yw Statws Athro Cymwysedig?
A: Dyma'r cymhwyster sy'n eich galluogi i ddechrau dysgu mewn ysgolion cynaledig ac arbennig yng Nghymru a Lloegr. I gael Statws Athro Cymwysedig, mae'n rhaid cwblhau cwrs cychwynol ymarfer dysgu a chyrraedd safonau angenrheidiol athro neu athrawes hyfforddiedig. Mae'r safonau yma'n cynnwys:
- arddangos yr agwedd, gwerthoedd, a'r ymroddiad a ddisgwylir ohonoch fel athro;
- arddangos hyder ac awdurdod yn y pynciau rydych chi'n eu dysgu;
- dealltwriaeth lwyr o sut mae disgyblion yn datblygu a beth y disgwylir ohonynt; a
- dangos sgiliau rheoli dosbarth a chynllunio, dysgu, monitro ac asesu.
Ar ddiwedd eich cwrs, bydd eich hyfforddwyr yn eich enwebu i'r Adran Addysg a Sgiliau a'r Ysgrifennydd Gwladol i gael Statws Athro Cymwysedig.
C: Fe wnes i hyfforddi i fod yn athro yn Lloegr - a dw i wedi dysgu mewn ysgolion yn Lloegr ers hynny. Ydw i'n gymwys i ddysgu yng Nghymru?
A: Ydych. Er fod gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru reolaeth dros addysg, gan gynnwys ymarfer dysgu, yng Nghymru, mae cymwysterau dysgu a geir yn Lloegr ac yng Nghymru yn ddilys yn y ddwy wlad.