C: Fydd yr ysgol yn fy ystyried i'n 'rhiant ffyslyd' os ydw i'n gofyn am gael ymweliad yn ystod amser ysgol?
A: Bydd ysgol dda yn falch iawn o groesawu rhieni a byddant yn trefnu bod staff ar gael i fynd â'r rhieni o amgylch yr ysgol ac ateb unrhyw gwestiynau. Ffoniwch i drefnu amser fel bod y staff yn gallu neilltuo digon o amser ar eich cyfer.
C: Pa mor ddoeth yw hi i ddewis ysgol uwchradd a fydd yn golygu y bydd fy mhlentyn yn cael ei wahanu oddi wrth ei ffrindiau ysgol gynradd?
A: Mae hwn yn fater personol ac unigol i rieni benderfynu yn ei gylch gyda'u plentyn. Nid oes rheolau pendant, ond mae plant fel arfer yn gallu addasu, er bod rhai'n setlo'n haws na'i gilydd. Mae angen cydweithrediad llawn eich plentyn wrth wneud penderfyniadau o'r fath.