C: Mae fy mhlentyn yn awyddus i astudio pynciau penodol ar gyfer TGAU ond mae'r ysgol yn dweud nad yw'r pynciau hynny ar gael. A oes hawl gan yr ysgol i gyfyngu'r dewis?
A: Er fod pob ysgol yn cynnig dewis eang o bynciau ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae anhawsterau gyda amserlenni yn gwneud dewis gwbl agored o bynciau TGAU yn anodd, os nad yn amhosib. Mi fydd ysgol yn cynnig y pynciau hynny y mae'n rhaid i bawb eu hastudio ac hefyd yn ceisio cynnig dewis ychwanegol o bynciau, gan ystyried pa bynciau byddai disgyblion yn debygol o ddewis.
Mae'r broses hir a manwl yma'n gosod allan y dewis o bynciau gall ysgol ei gynnig. Mae'n amhosib i gynnig pob pwnc, felly er mwyn gwasanaethu'r mwyafrif, mae'n anochel, gwaetha'r modd, fod rhai disgyblion yn cael eu siomi.