C: Os yw fy mhlentyn wedi ei wahardd o'r ysgol, ydy hi'n dal yn iawn i mi fynd yno i drafod y sefyllfa gyda'r pennaeth?
A: Ydy. Bydd y pennaeth yn falch o gael cyfle i drafod y broblem. Gallai hwn fod yn gyfarfod buddiol i chi ac i'r ysgol.
C: Os yw fy mhlentyn wedi ei wahardd o'r ysgol, pwy all ddweud wrthyf sut i apelio yn erbyn y gwaharddiad?
A: Mae gennych hawl i apelio, a rhaid i'r ysgol gyflwyno'r holl fanylion sydd arnoch eu hangen ac egluro'r broses wrthych. Neu, gall yr awdurdod addysg lleol hefyd ddarparu'r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen.