C: Pa gyfrifiadur ddylwn i ei brynu ar gyfer fy mhlant?
A: Mae llawer o rieni y dyddiau hyn yn prynu cyfrifiaduron y gall eu plant eu defnyddio yn y cartref, er mwyn cael gafael ar adnoddau addysgol y Rhyngrwyd, a defnyddio meddalwedd graffeg a phrosesu geiriau i wneud eu gwaith cartref a'u gwaith cwrs. Ond pa gyfrifiadur ddylech chi ei brynu?
PC neu Mac
Mae rhai ysgolion yng Nghymru - yn enwedig yn y sector cynradd - yn dal i ddefnyddio peiriannau Acorn, ac efallai fod ambell un yn dal i fod ag Apple neu ddau, ond y cyfrifiadur y mae'ch plentyn yn fwyaf tebygol o'i ddefnyddio yn y dosbarth yw cyfrifiadur personol (PC), sy'n defnyddio meddalwedd poblogaidd Windows. Felly mae'n llawer haws os yw cyfrifiadur y cartref hefyd yn gyfrifiadur personol (PC).
Cryfder
Pan fo angen penderfynu pa gyfrifiadur penodol i'w ddewis, mae'n syniad da prynu'r pecyn gyda'r prosesydd cyflymaf a'r cof mwyaf y gallwch ei fforddio - ond i chi sylweddoli y bydd rhywbeth llawer cynt a llawer rhatach ar y farchnad cyn i chi dynnu'ch cyfrifiadur allan o'r bocs hyd yn oed!
Cyfrifiadur pen desg neu gyfrifiadur glin?
Mae'r ddau fath o gyfrifiadur yn cynnig yr un cryfder prosesu ac yn defnyddio'r un meddalwedd. Mae'r penderfyniad yn dibynnu ar sut rydych yn bwriadu ei ddefnyddio:
- mae gan y cyfrifiadur pen desg sgrin fwy, felly mae'n llawer gwell ar gyfer chwarae gemau, defnyddio graffeg ac yn y blaen
- mantais amlwg cyfrifiadur glin yw ei fod yn symudol. Felly os ydych eisiau cadw llygad ar eich plentyn tra mae'n syrffio'r rhyngrwyd, gallwch osod y cyfrifiadur glin yn yr ystafell fyw. Wedyn gallwch ei symud yn rhwydd i ystafell wely'r plentyn pan fo arno angen heddwch i deipio gwaith cartref. Mae cyfrifiadur glin hefyd yn golygu, os oes gennych fwy nag un plentyn, y gall pob un gymryd ei dro i 'ofalu' am y cyfrifiadur glin drwy ei gael yn ei ystafell.
Ac os ydych chi'n lwcus efallai y cewch chi gyfle i ddefnyddio'r cyfrifiadur rhyw bryd...
Pethau y dylech eu gwneud:
- ystyried prynu'ch PC neu'ch Mac o'r hysbysebion mewn cylchgronau cyfrifiadurol yn hytrach na'r stryd fawr - maent yn aml yn rhatach.
- mynd am brosesydd Intel Celeron neu AMD Duron os ydych am beiriant cyflym, rhesymol.
- prynu mwy na 64MB Ram o gof - bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ond peidiwch â phrynu mwy na 128 MB oni bai eich bod yn golygu llawer o luniau, sain neu fideos.
- ystyried prynu gyrrwr allgofnodi CD - gall storio 650MB ar CDs gwag sy'n costio dim ond £1 yr un.
Pethau na ddylech eu gwneud:
- prynu prosesydd 1,000MHz - does arnoch chi mo'i angen os nad ydych chi'n gwneud gwaith graffeg arbenigol.
- prynu cerdyn graffeg drud oni bai eich bod am wario i gael y perfformiad gorau gyda gemau 3D.
- gwario ar ddisg galed 50GB - mae 20 GB yn fwy na digon ar gyfer y rhan fwyaf ohonom.
- mynd am yrrwr CD Rom 32X oni bai eich bod eisiau model arbennig o gyflym - mae 16X neu arafach, hyd yn oed, yn iawn i'r rhan fwyaf o bobl.