C: Rwy'n ceisio annog fy mhlentyn i ddarllen mwy. Ddylwn i argymell llyfrau?
A: Gall cymeradwyaeth gan oedolion sicrhau bod rhai llyfrau - a rhai plant! - yn mynd i gyfeiriad cwbl groes! Mae'n bwysig, fodd bynnag, fod oedolion yn dangos bod rhai deunyddiau darllen yn apelio mwy atynt hwy nag eraill a bod darllen wedi rhoi pleser iddynt ac wedi cyfoethogi'r ffordd y maent yn edrych ar y byd.
Gyda phlant iau, hyd yn oed ar ôl iddynt ddysgu darllen, mae'n syniad da dal i ddarllen yn uchel er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mwynhau'r llyfrau newydd rydych yn eu dewis a dal y lleisiau sydd ynddynt. Gall rhestrau o hoff lyfrau ar gyfer 'ynys bellennig' annog trafodaeth ac ennyn chwilfrydedd plant hyn.