C: Mae fy mhlentyn yn cymysgu'r ddwy iaith. Beth ddylwn i ei wneud?
A: Ychydig iawn o deuluoedd dwyieithog sy'n gallu dweud nad yw eu plentyn yn cymysgu'r ddwy iaith, yn enwedig yn y cyfnod cynnar.
Mae rhai pobl yn pryderu am burdeb iaith a gall rhieni ei chael yn anodd i wrando ar fersiwn cymysg. Ond o safbwynt plentyn, y cyfan y mae cymysgu ieithoedd mewn unrhyw ffordd yn ei wneud yw ei helpu i gyfleu'r neges - cyfrwng ar gyfer cyflawni pwrpas yw iaith, nid pwrpas ynddo'i hun. Mae cymysgu ieithoedd yn digwydd o hyd ac mae i'w ddisgwyl yng nghyfnodau cynnar datblygiad dwyieithrwydd.
Er mwyn helpu'r broses o wahanu ieithoedd, gall rhieni:
- osgoi beirniadu neu gywiro camgymeriadau drwy'r adeg. Ni fydd dangos eich pryder a'ch poen yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad iaith plentyn. Os rhywbeth, mae'n fwy tebygol o wneud y plentyn yn waeth! Gall ei wneud yn ochelgar mewn iaith ac yn bryderus ynghylch ei ddwyieithrwydd, a gall arafu ei ddatblygiad ieithyddol.
- cadw ffiniau eu hieithoedd eu hunain yn glir. Cadw at un iaith ar y tro pa bryd bynnag y mae hynny'n bosib, o leiaf pan fo'ch plentyn yn ifanc iawn. Maent yn mynd i godi'r peth gennych chi os ydych chi'n siarad un frawddeg yn Gymraeg a'r nesaf yn Saesneg. Byddant yn dysgu'n fuan gyda phwy y gallant newid a chyda phwy y dylent ddefnyddio un iaith yn gyfan gwbl bron.
Pan fo iaith yn cael ei gwahanu gan y ffordd y mae'n cael ei defnyddio gan wahanol bobl, mewn gwahanol gyd-destunau, hyd yn oed ar adegau gwahanol o'r wythnos neu'r diwrnod, bydd plentyn yn dysgu bod iaith yn cael ei 'rhannu yn adrannau' yn y modd hwn. Bydd yn dod i ddeall yn y diwedd pa bryd ac ym mhle i ddefnyddio'r iaith iawn, a gwahanu ei Gymraeg a'i Saesneg.