C: Pa gymwysterau sy angen arnaf i fod yn gynorthwy-ydd dosbarth / rôl gynorthwyol arall?
A: Mater i awdurdodau addysg lleol ac ysgolion unigol yw recriwtio ac hyfforddi staff cynorthwyol, gan gynnwys cynorthwywyr dosbarth. Y cyflogwyr sy hefyd yn penderfynu pa sgiliau, profiad a chymwysterau sy'n angenrheidiol wrth iddynt recriwtio, ac mae hynny'n dibynnu ar natur y rôl.
Gallwch gysylltu ag ysgolion lleol neu'r awdurdod addysg lleol yn uniongyrchol i weld os oes unrhyw swyddi cynorthwyol ar gael yn eich ardal chi. Gallwch hefyd chwilio mewn papurau newyddion lleol am hysbysebion, neu gofynnwch mewn canolfan gwaith.