C: Ddylwn i geisio dysgu fy mhlentyn i ddarllen cyn iddo fynd i'r ysgol?
A: Er eich bod am roi'r dechrau gorau posib i'ch plentyn, awgryma tystiolaeth y gall gwthio plant i ddarllen neu ddysgu am rifau mewn ffordd ffurfiol mewn gwirionedd fod yn wrthgynhyrchiol.
Y peth gorau i'w wneud yw gadael iddynt ddarganfod a dysgu ar eu cyflymder eu hunain, heb ddilyn unrhyw drefniadau pendant, ond gallwch eu hannog i ddatblygu'r sgiliau priodol i'w paratoi ar gyfer yr ysgol.