A: Gorgyffredinoli fyddai dweud bod addysg gynradd yn dysgu plant, ac addysg uwchradd yn dysgu pynciau - ond mae gronyn o wirionedd sydd â goblygiadau i'r ffordd y mae rhieni'n edrych ar addysg ddwyieithog. Mae rhai rhieni'n meddwl ei bod yn hollol naturiol i'w plant gael eu haddysgu'n ddwyieithog mewn ysgolion cynradd gan fod ysgolion o'r fath yn aml yn rhoi'r plentyn yn ganolog.
Mae amser wedi ei neilltuo yn y cwricwlwm, ac mae'r awyrgylch anffurfiol yn addas ar gyfer dysgu iaith yn yr ysgol gynradd. Mae'r cyfnod cynradd yn adeg pan roddir mwy o flaenoriaeth i ddysgu iaith o gymharu â gofynion llwyddiant mewn arholiadau yn nes ymlaen yn yr ysgol uwchradd. Mae rhai rhieni felly'n gweld yr ysgol gynradd fel lle delfrydol i ddwyieithrwydd plentyn ffynnu.
Weithiau, mae gan yr un rhieni syniadau gwahanol ar gyfer addysg uwchradd. Edrychir ar addysg uwchradd fel amser i edrych o ddifrif ar ddysgu pynciau, llwyddo mewn arholiadau a pharatoi ar gyfer y farchnad waith. Yn ystod addysg uwchradd, mae athrawon a rhieni'n ymddiddori mwy a mwy yn llwyddiant y plentyn mewn mathemateg a gwyddoniaeth, yr iaith fwyafrifiol a'r dyniaethau. Daw ail iaith yn bwnc arholiad. Gall datblygiad dwyieithrwydd ymddangos yn llai pwysig - y nod yw llwyddiant mewn arholiadau, mynd ymlaen i goleg neu brifysgol, ac agor drysau a fydd yn arwain at waith.
Gall addysg uwchradd ddwyieithog, fodd bynnag, ddarparu dilyniant ieithyddol addysgol i'r plentyn. Os yw plentyn wedi cael ei ddysgu drwy gyfrwng dwy iaith hyd ddiwedd ei addysg gynradd, mae'n gwneud synnwyr iddo barhau â phatrwm iaith yr ysgol gynradd yng nghwricwlwm yr ysgol uwchradd. Mae ymchwil ar y cyfan yn awgrymu na fydd defnydd deuol o iaith yng nghwricwlwm yr ysgol uwchradd yn cael effaith negyddol ar gynnydd plant ac ar eu llwyddiant yn nes ymlaen. Yn wir, gallai fod yn fanteisiol o ran cyrhaeddiad ar draws y cwricwlwm ac, o leiaf, o ran sicrhau safon uchel mewn ail iaith.
Mae ysgolion uwchradd dwyieithog yn aml yn cynhyrchu plant y mae eu dwyieithrwydd a'u deulythrennedd wedi datblygu'n dda. Mae hyn yn cymryd yn ganiataol, fodd bynnag, bod plant yn dechrau eu haddysg uwchradd gyda hyfedredd ieithyddol sy'n ddigon da i'w galluogi i ddygymod â lefel yr iaith a ddefnyddir gan athrawon ac a welir yn neunyddiau'r cwricwlwm.
Yn achos rhieni unieithog, gall anfon eu plant i ysgolion uwchradd dwyieithog olygu na fyddant yn gallu helpu eu plant gyda'u gwaith cartref. Fodd bynnag, ni fydd plant y mae eu dwy iaith wedi datblygu'n dda fel arfer yn cael fawr o drafferth i gyfieithu er mwyn helpu eu rhieni i ddeall y broblem. Ymddengys bod y weithred o gyfieithu weithiau'n eu helpu i ddeall. Efallai y bydd yn cymryd ychydig bach mwy o amser i gyfieithu, ond gall y plentyn ysgol uwchradd a'r rhiant unieithog ddatrys problem gwaith cartref gyda'i gilydd gystal bob tamaid.
Gall plant dwyieithog mewn addysg uwchradd elwa weithiau pan fo'r un gwerslyfrau neu rai tebyg ar gael yn y ddwy iaith - mae hyn yn golygu y gallant weld dau wahanol eglurhad ac esboniad, a bod mwy o gyfle iddynt ddeall y gwaith. Mae rhai rhieni'n ofni y bydd plant yn dioddef pan fyddant yn mynd i brifysgol neu goleg os ydynt wedi astudio mewn ysgol uwchradd ddwyieithog.
Ond mae plant dwyieithog un ar bymtheg neu ddeunaw oed yn gallu symud yn rhwydd o un iaith i'r llall ac yn gallu addasu'n weddol hawdd i weithio mewn prifysgol neu goleg yn y naill iaith neu'r llall. Nid oes fawr o reswm pam na all plentyn newid o Gymraeg i Saesneg mewn prifysgol, cyn belled ag y bo ganddo sgiliau datblygedig mewn Saesneg ynghyd â'r eirfa helaeth a'r strwythur ieithyddol cymhleth sydd ei angen mewn addysg uwch neu drydyddol.