 | Teresa Owen
Mae Teresa Owen yn ddeietegydd cofrestredig, athrawes gymwys a maethegydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gydag arbenigedd ym mhob agwedd o ddeiet a maeth, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn atal afiechyd gyda deiet maethlon. Mae hi'n Gymraes Gymraeg ei hiaith, a chanddi flynyddoedd o brofiad o weithio gyda chleifion yn unigol ac mewn sefyllfaoedd grŵp, ac o ddarparu hyfforddiant maeth ar gyfer nifer o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae hi wedi astudio dulliau atal salwch bwyta a gorbwysau, ac fe'i henwyd yn ddiweddar yn un o Wyddonwyr Ifanc mewn Bwyd a Maeth 2003. Mae Teresa ar hyn o bryd ar secondiad gyda Phroffesiynau Iechyd Cymru.
|  |
- Gosodwch nod realistig.
Anewlch at golli 1-2 pwys yr wythnos a glynwch wrtho - bydd yn gweithio, mae'n fwy tebygol o aros i ffwrdd, ac mae'n bwysau diogel i'w golli. Dylech gofio nad enilloch chir pwysau dros nos, felly ni fydd yn diflannu dros nos.
Un or prif resymau fod pobl yn methu cadw eu pwysau i lawr yw fod ganddynt ddisgwyliadau afresymol o gyflymdra colli pwysau, ac o effaith colli pwysau ar eu bywydau. Cofiwch, peidiwch â phwyso eich hunan bob dydd.
- Gwnewch beth sydd orau i chi.
Does dim rhaid i chi beidio â bwyta'ch hoff fwydydd - y gamp yw cael y cydbwysedd cywir! Fodd bynnag, mae'n haws i rai pobl roi'r gorau i fwyta math o fwyd yn gyfangwbl yn hytrach na'i leihau neu roi'r gorau iddo'n raddol.
Pediwch â meddwl am fwyd fel peth da neu ddrwg, does dim byd yn waeth na theimlo na allwch gael rhywbeth. Os oes arnoch chwant am fwyd fel siocled, meddyliwch amdano fel peth achlysurol yn unig.
- Mae pob diwrnod yn ddiwrnod newydd!
Peidiwch â phoeni os cewch ddiwrnod gwael. Defnyddiwch eich egni i ddechrau eto. Cofiwch yr hyn rydych yn ceisioi gyflawni. Bydd hyn yn wahanol i bawb, ond rwy'n siwr yr hoffech deimlo'n well ac yn iachach, a chael mwy o egni.
Mae wastad yn syniad da i ysgrifennu ar y dechrau pam eich bod yn bwriadu collir pwysau, a'i ddefnyddio i ganolbwyntio'ch meddwl pan fo pethau'n mynd yn drech na chi. Bydd yn mynd yn anoddach, ond bydd werth y drafferth. A pheidiwch â meddwl am eich ymddangosiad yn unig - meddyliwch am y lles i'ch iechyd. Sicrhewch eich bod yn colli pwysau er eich mwyn eich hunan ac nid er mwyn pobl eraill. Ond gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu am gefnogaeth.
- Cynlluniwch o flaen llaw.
Mae hi'n werth cynllunio eich siopa. Ceisiwch sicrhau fod stoc o bethau sylfaenol yn eich cwpwrdd a'ch oergell fel y gallwch goginio rhywbeth blasus yn gyflym, heb orfod troi at brydau llawn braster a siwgr. Byddai cael llysiau wedi'u torri'n barod a phowlen o ffrwythau gerllaw yn help os ydych yn tueddu i bigo ar fwyd tra'n coginio neu'n gwylio'r teledu.
Bwytwch amrywiaeth eang o fwydydd, i gael y gymysgedd iawn o fitaminau a mwynau i gadw'n iach. Hefyd, cynlluniwch eich targedau colli pwysau o flaen llaw, ond peidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol. Yn hytrach, meddyliwch am yr hyn yr hoffech fod wedi ei gyflawni ymhen rhyw 2 fis - arhoswch yn bositif.
- Meddyliwch am eich chwant am fwyd.
Bwytwch er mwyn diwallu angen, nid am eich bod wedi diflasu! Os ydych eisiau bwyd, ceisiwch aros am 10 munud, er mwyn gweld os ydych eisiau bwyd mewn gwirionedd neun teimlon ddiflas. Mae hin werth cofio sut deimlad yw gwir angen am fwyd.
- Osgowch demtasiynau!
Os cewch eich denu i fwyta rhai bwydydd mewn sefyllfaoedd arbennig, neu os oes arnoch ofn bod mewn sefyllfaoedd ble byddain anodd gwrthod bwyd, osgowch nhw. Gall dyddiadur bwyd fod yn gymorth i adnabod y temtasiynau, ac i gofnodi eich llwyddiant. Bydd ysgrifennu popeth rydych yn ei fwyta (a'i yfed) yn gymorth i gadwch brwydfrydedd a'ch dyfalbarhad.
- Gwnewch y pethau bychain!
Peidiwch â theimlo rheidrwydd i newid popeth ar unwaith. Gall newidiadau bychain megis defnyddio menyn braster is, llaeth braster is gyda grawnfwyd a pheidio ag ychwanegu siwgr at ddiodydd wneud newidiadau cadarnhaol.
- Anghofiwch am ddeietau carlam.
Peidiwch â chael eich hudo gan ddeietau carlam - dydyn nhw ddim yn gweithio. Bydd y pwysau yn llithro nôl unwaith eto. Y ffordd synhwyrol o golli pwysau yn yr hir dymor yw dilyn deiet cytbwys, yn isel mewn braster a siwgr, gyda rhagor o weithgarwch. Y bwriad o wneud hyn yw collir pwysau a'i gadw i ffwrdd am weddill eich bywyd.
- Gwyliwch faint eich cyfran.
I lawer, byddai torri maint eu cyfran o fwyd yn gwneud gwahaniaeth i faint eu dillad. Defnyddiwch blât llai, a chofiwch mai cydbwysedd y bwyd ar y plât sy'n bwysig. Mae lle i ddanteithion, cyn belled â'u bod nhw'n rhai bychain achlysurol. Peidiwch â theimlo rheidrwydd i glirio'ch plât yn llwyr!
- Ewch amdani - bwytwch ffrwyth neu lysieuyn arall heddiw... rydych chi'n ei haeddu!
Dylai pawb anelu at fwyta pum cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd. Peidiwch â digalonni os ydych yn bwyta llai na hyn - ceisiwch godi'r nifer yn raddol, fel y bydd cydbwysedd eich prydau yn newid yn y pen draw. Dylech fwyta digon o ffrwythau a llysiau, a digon o fwydydd llawn starts, megis bara, tatws, reis a phasta. Mae bwydydd fel hyn yn eich llenwi ac nid ydynt yn uchel mewn calorïau, ond peidiwch ag ychwanegu llawer o fraster atyn nhw! Hefyd, dewiswch gynnyrch llaeth braster isel, a thorrwch lawr ar ddarnau mawr o gig a chaws.
|