BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwerth eu Pwysau
Alison Pylkkänen Alison Pylkkänen
Alison yw golygydd cylchgrawn Zest, sef y cylchgrawn iechyd, prydferthwch a ffitrwydd sy'n gwerthu orau yn y DU.

  1. Defnyddiwch fideo.
    Prynwch fideo ffitrwydd sy'n torri'r gweithgareddau i adrannau bychain sy'n canolbwyntio ar rannau'r corff (stumog, breichiau, coesau) neu ar gyrraedd nod (ymlacio, cryfhau, tynhau). Wedyn, bydd modd i chi wneud ychydig, hyd yn oed os nad oes amser gennych i wneud yr holl beth.


  2. Noson allan gyda'r merched.
    Trefnwch noson allan gyda'r merched - a dewiswch rywle gyda cherddoriaeth wych. Gallwch losgi 600 calori wrth ddawnsio am ddwy awr!


  3. Methu wynebu'r daith i'r gym?
    Nid chi yw'r unig un. Maer ffordd fwyaf ffasiynol o chwysu chwartiau ar garreg y drws, yn ôl arbenigwyr o UDA, sy'n honni bod pobl yn dechrau darganfod yr hwyl sydd i'w gael o ymarfer yn eu cymunedau. Felly, cynigiwch fod yn gwmni i'ch cymydog pan fydd yn mynd â'r ci am dro, ymunwch â'ch dosbarth ioga lleol neu ddefnyddio'ch parc agosaf.


  4. Bownsio!
    Bydd bownsio am 10 munud ar drampolîn yn gwneud i chi deimlo fel plentyn eto, ac mae mor llesol i'r corff â loncian am 30 munud, yn ôl astudiaeth gan NASA!


  5. Nofio.
    Gall nofio wneud i chi deimlon fwy llwglyd na rhedeg oherwydd bod rhaid i'ch corff weithion galetach er mwyn cadw'i dymheredd yn sefydlog yn y dŵr. Felly, os hoffech osgoi chwant bwyd mawr ar ôl ymarfer, gwell fyddai hepgor y pwll.


  6. Rhannwch y rhedeg.
    Os yw rhedeg heb seibiant am 20 munud yn teimlo'n rhy anodd, rhannwch y sesiwn trwy redeg am bedwar munud a cherdded am un munud. Gwnewch hyn dair neu bedair gwaith, a chynyddwch eich amser rhedeg wrth i chi ddod yn fwy heini.


  7. Dŵr.
    Mae yfed dwy litr o ddŵr llonydd y dydd yn eich helpu i losgi 150 calori, trwy ysbarduno eich system nerfol a chyflymu eich metaboledd.


  8. Calsiwm.
    Bwytwch ddigon o fwydydd llawn calsiwm. Mae astudiaethau'n dangos y gall lefelau uchel o galsiwm reolir hormonau sy'n gwneud i ni gadw braster wedi'i storio. Mae llysiau gwyrdd deiliog a chynnyrch llaeth braster-isel yn ffynonellau da o galsiwm.


  9. Stumog fel Britney!
    Hoffech chi gael stumog fel Britney? Buddsoddwch mewn hula hoop. Mae pwysau ar y mathau diweddaraf ohonynt, felly maent yn gweithio'ch canol a chyhyrau'r stumog yn galetach na'r cylchoedd plastig traddodiadol.


  10. Tretiwch eich hunain.
    Os ydych dillad ymarfer yn hen neu'n ddiolwg, fyddwch chi ddim yn teimlon dda wrth eu gwisgo. Prynwch git newydd ffasiynol yn anrheg i'ch hunan - bydd yn eich ysgogi i ymarfer mwy.


Alison Pylkkänen
Dave Tonge
David Napier
Dr Frankie Phillips
Dr Ian Campbell
Gillie Bonner
Huw Wiltshire
Ken Fox
Mary Sheppard
Matt Lloyd-Lewis
Pauline Hill
Robert Rees
Rochele Collins
Teresa Owen
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy