 | Dr Ian Campbell
Mae Ian yn feddyg ac yn arbenigydd rheoli pwysau. Mae e'n Gadeirydd y Fforwm Gorbwysedd Cenedlaethol. Hefyd, ef yw awdur www.fatmanslim.com.
|  |
- Gwybod pam rydych am golli pwysau.
Dydy colli pwysau fyth yn hawdd. Dechreuwch ar y dechrau, a phenderfynwch pam rydych am golli pwysau. Nodwch hwnnw i lawr ar bapur a'i roi rhywle lle rydych yn gallu ei ddarllen bob dydd. Ydych chi am wellach iechyd, teimlo'n fwy ffit, edrych yn dda neu fwynhau chwarae gyda'r plant? Nid oes ots - beth sy'n bwysig i chi sy'n cyfri.
- Meddyliwch hir-dymor.
Yn bwysicach na cholli pwysau mae cynnal pwysau. Mae bron â bod unrhyw un yn gallu colli pwysau, ond y prawf yw ei gadw i ffwrdd. Maech pwysau wedi cynyddu dros gyfnod hir o amser, felly cymerwch eich amser wrth ei golli. Anelwch at ddatblygu arferion ar gyfer gweddill eich bywyd. Mae hynny'n bwysig.
- Rhagwelwch eich llwyddiant.
Mae sbortsmyn a phobl busnes yn defnyddio technegau rhagweld. Mae fy nghleifion hwythau yn ei defnyddio. Meddyliwch am rywbeth yn ddigon aml, ac efallai y bydd yn digwydd! Treuliwch beth amser bob dydd yn breuddwydio sut y basech chi'n teimlo pe baech chi'n llwyddo i gyrraedd y nod - teimlwch hi, gwelwch hi, dychmygwch beth bydd pobl eraill yn dweud wrthych chi. Penderfynwch sut y bydd yn teimlo, a gwnewch beth bynnag sydd ei angen i lwyddo.
- Gosodwch dargedau cyraeddadwy.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n gosod targedau, rhai tymor byr a rhai tymor hir. Penderfynwch arnyn nhw au nodi lawr ar bapur. Targedau tymor byr yw rhywbeth fel colli pwys neu ddau yn yr wythnos nesaf, torrwch nôl ar y siocled, mynd â'r ci am dro bob dydd, neu i gadw dyddiadur bwyd. Targedau tymor hir yw colli stôn dros gyfnod o fis, colli dwy stôn dros gyfnos o chwe mis, neu gollwng maint eich gwregys. Beth bynnag y bo, gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn i chi, ac yn real.
- Cadwch ddyddiadur bwyd a gweithgareddau.
Un or pethau pwysicaf yw eich bod chi'n ysgrifennu lawr popeth - POPETH - rydych yn ei yfed ai fwyta am wythnos gyfan. Erbyn diwedd yr wythnos byddwch chi'n meddwl am y pethau drwg rydych yn eu gwneud, ac yn gwneud newidiadau synhwyrol. Cadwch ddyddiadur mor aml ag sydd bosib.
- Rheolwch eich arferion bwyta.
Un o'r problemau mwyaf sydd gennym yw bwyta'n afreolaidd. Mae profion yn dangos mai bwyta tri phryd bwyd rheolaidd bob dydd, gan ddechrau gyda brecwast iach, yw'r ffordd gywir i golli pwysau. Mae colli pryd o fwyd yn ei wneud yn anos, yn achosi i'ch metabolaeth i ddisgyn, ac yn ei wneud i chi snacio ar fwydydd afiach rhwng prydau. Ceisiwch fwyta 5 darn o ffrwythau neu lysiau bob dydd, torrwch lawr ar y snacio, a chadwch lefel y braster yn isel.
- Byddwch yn fyw actif.
Mae colli pwysau'n gyfuniad o leihau faint o fwyd rydych yn ei fwyta, a chynyddu faint o egni rydych yn ei ddefnyddio hynny yw, rhaid i chi ymarfer! Anelwch at o leiaf 5 munud o weithgaredd ychwanegol bob dydd, mwy na hynny os yw'n bosib. Os nad ydych chi wedi bod yn actif am beth amser, adeiladwch y maint rydych yn ei wneud yn raddol. Mae mynd am dro o gwmpas y bloc yn lle gwych i ddechrau. Adeiladwch hyn i fyny fel eich bod yn mynd allan am droeon hirach. Gadewch y car gartref yn amlach, ewch am dro gyda'r plant i'r ysgol, disgynnwch oddi ar y bws arhosfa yn gynt a cherddwch weddill y daith. Ewch am dro gyda'r teulu. Gwnewch yr holl beth yn hwyl i bawb.
- Torrwch lawr ar y diod.
Mae llawer ohonom ni'n yfed gormod. Mae alcohol yn cynnwys mwy o galorïau i bob gram nag unrhyw fwyd arall, heblaw am fraster. Torrwch lawr ar y maint o alcohol rydych yn ei yfed. Faswn i ddim yn awgrymu eich bod chi'n stopio, heblaw eich bod chi am wneud hynny, dim ond i chi ei gadw yn isel. Yfwch ddŵr neu diodydd deiet yn fwy aml.
- Edrychwch am ragor o gefnogaeth.
Mae colli pwysau'n anodd, felly rhaid cael cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosib. Efallai y daw hyn o'r teulu, gan ffrindiau, grŵp colli pwysau lleol, neu safle ar y we sydd ag enw da iddi. Ystyriwch ofyn am gymorth gan eich meddyg neu gan nyrs y practis. Maent yn galluch ymgynghori ar y ffordd orau i chi golli pwysau. Edrychwch am y math o gefnogaeth sy'n siwtio'ch ffordd o fyw, eich hanes meddygol a'ch dyheadau.
- Peidiwch fyth â rhoi'r ffidil yn y to.
Peidiwch fyth, byth rhoi'r ffidil yn y to. Dylai rheoli pwysau fod yn rhywbeth hyd-oes. Cewch chi wythnosau lle bydd popeth yn gweithio yn ôl y cynllun, ac wythnosau lle rydych yn meddwl bod popeth yn anobeithiol. Mae bywyd real yn ymyrryd yn o aml. Cadwch eich pen i fyny, ac atgoffwch eich hun am y rhesymau dros golli pwysau (cofiwch - fe'u nodwyd lawr ar bapur!), ewch yn ôl at eich dyddiadur bwyd, rhagwelwch eich llwyddiant, ailosodwch eich targedau, canolbwyntiwch ar eich llwyddiant, ac atgoffwch eich hun mae diwedd y gân yw'r geiniog.
|