 | Matt Lloyd-Lewis
Mae Matt yn ymwneud â chwaraeon tîm a chwaraeon unigol. Mae e wedi ysgrifennu erthyglau am ffitrwydd ar gyfer cylchgronnau ac mae ganddo gymwysterau mewn hyffordiant personol, profi ffitrwydd, ymarfer ar gyfer poblogaethau arbennig a thylino.
|  |
- Gosodwch nod i'ch hunan gydag amseroedd a dyddiadau ar gyfer mynd i'r gym ... a glynwch wrtho! Os oes cynllun gennych chi, maen haws canolbwyntio ar y nod.li>
- Gwnewch ffitrwydd yn rhan o'ch bywyd.
Gwelwch e fel rhan och diwrnod/wythnos/mis. Mae'n mynd yn haws ac fe sylweddolwch ei fod yn dda i'w wneud!
- Hwyl.
Ymwelwch â'r gym gyda ffrind neu berthynas a mwynhewch! Gallwch gymdeithasu a gwneud lles i'ch hunan!
- Gosodwch dargedau unigol a chadwch rywbeth i anelu ato. Gwnewch y targedau'n rhai realistig - rhaid i chi allu gweld y newidiadau a theimlo'r buddiannau.
- Cofwich nad yw pob gweithgaredd yn digwydd mewn gym! Gallech gerdded amser cinio y tu allan i'ch gweithle neu ddefnyddio rhaff sgipio'r plant yn yr ardd.
- Amrywiwch eich gweithgareddau er mwyn cadwch diddordeb ach brwdfrydedd. Gofynnwch i'ch ffrindiau am eu ffyrdd o ymarfer. Mae amrywiaeth yn dda.
- Gweithiwch ar eich cryfderau.
Os ydych yn collich brwdfrydedd - ceisiwch rywbeth arall!
- Fe synnwch faint o bobl sy'n teimlo'n union fel chi am eu maint au siâp. Peidiwch â theimlo'n swil - meddyliwch pa mor dda fyddwch yn ei deimlo wrth wneud yr ymdrech! Wrth i chi fagu hyder, byddwch yn teimlo cymaint yn well. Rhaid i bawb ddechrau'n rhywle.
- Cynyddwch eich rhaglen yn raddol.
Cymerwch ddigon o amser ac fe wnewch chi'r cyfan yn iawn.
- Mwynhewch!
|