 | Rochele Collins
Collodd Rochele 2 stôn er mwyn cyrraedd ei nod bron i 8 mlynedd yn ôl ac mae hi wedi bod yn arwain Weightwatchers ers hynny. Mae Rochele yn gweithio ac yn fam i dri o blant. Dywed Rydw i'n dwli ar fwyd, felly os gallaf i ei wneud, gall unrhyw un ei wneud.
|  |
- Cadwch gyfrif neu ddyddiadur bwyd bob dydd o'r bwyd rydych wedi ei fwyta.
- Yfwch ddigon o ddŵr - o leiaf 8 gwydrad y dydd.
- Bwytwch frecwast bob amser.
- Llenwch eich bol gyda digon o ffrwythau a llysiau o leiaf 5 cyfran y dydd.
- Peidiwch â disgwyl gwyrthiau. Mae colli 1-2 pwys yr wythnos yn iach.
- Cymerwch amser i gynllunio.
- Chwyswch! Gwnewch ychydig o ymarfer corff a phrofwch rywbeth newydd ar eich pen eich hun neu gyda ffrind, ond sicrhewch ei fod yn rhywbeth rydych yn ei fwynhau.
- Osgowch bobl sy'n eich bychanu.
- Cymerwch amser i gnoi eich bwyd yn iawn a mwynhewch yr hyn rydych yn ei fwyta.
- Peidiwch â'i wneud ar eich pen eich hun. Arhoswch yn y cyfarfod er mwyn cael y cymorth ar gefnogaeth rydych yn eu haeddu.
|