BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwerth eu Pwysau
Mary SheppardMary Sheppard
Mary yw Cyfarwyddwr Ffitrwydd Cymru ac mae hin ymwneud ag ymarfer a ffitrwydd ers nifer o flynyddoedd, ar ôl sefydlu a rheoli Canolfan Ddawns a Ffitrwydd yn Llundain ugain mlynedd yn ôl. Pan symudodd i Gaerdydd, parhaodd i ddysgu nifer o ddosbarthiadau, o Pilates i Gylchedau, Aerobeg ac Aerobeg Dŵr; gweithiai gyda chleientiaid mewn gym a dechreuodd ymwneud â hyfforddi tiwtoriaid. Mae ganddi nifer o gymwysterau ffitrwydd, ynghyd â thystysgrif addysg (Tadd), Gwobr Aseswyr a Meistr mewn Chwaraeon ac Addysg.

  1. Rhestrwch yr holl weithgareddau rydych yn mwynhau eu gwneud a dewiswch un sy'n eich ysbarduno, fel na fydd yn teimlo fel gorchwyl.


  2. Amser cyfleus.
    Edrychwch ar eich ffordd o fyw i weld pa amser allech ei roi. Penderfynwch pa amser fyddai orau i chi, yn ôl cloc eich corff. Ai un o gŵn caer neu dderyn y nos ydych chi?


  3. Dechreuwch gyda nod bychan.
    E.e. cerdded am 15 munud ddwywaith yr wythnos, yn hytrach nag anelu at nod uchelgeisiol na fydd, yn anochel, yn cael ei gyrraedd!


  4. Trefnwch dyddiad.
    Tanlinellwch y weithgaredd yn eich dyddiadur gydag inc coch. Edrychwch arno fel rhywbeth na ellir ei golli. Fyddech chi ddim yn colli apwyntiad at y meddyg am nad oes amser gennych chi. Dylech edrych ar eich amser ymarfer yn yr un modd.


  5. Newidiadau.
    Ceisiwch wneud newidiadau bychain a chynaladwy i'ch ffordd o fyw. Defnyddiwch y grisiau at y llawr cyntaf yna cymerwch y llift neu'r grisiau symud - naill ai yn y gwaith, wrth siopa ayb, cerddwch i'r siop bapur newydd/siop leol/y dafarn yn hytrach na chymryd y car.


  6. Ffrindiau a teulu.
    Gofynnwch am gymorth teulu a ffrindiau. Rydych yn fwy tebygol o wneud y weithgaredd os meddyliwch y byddwch yn siomi rhywun wrth beidio.


  7. Dewis gym.
    Dewiswch gym neu ganolfan hamden sy'n agos at eich cartref. Edrychwch ar yr adnoddau sydd ar gael. Mae gan rai canolfannau sesiynau arbennig ar gyfer pobl hŷn, sy'n cynnwys gweithgareddau megis tenis bwrdd a badminton. Dewch o hyd i hyfforddwr neu ddosbarth rydych yn ei hoffin fawr; mae rhai wedi'u seilio ar ddawns, rhai'n athletaidd, eraill yn dda ar gyfer ymlacio a rhyddhau tensiwn. Sicrhewch fod y staff yn hollol gymwys (mae gan Ffitrwydd Cymru restr o hyfforddwyr ar Gofrestr yr Hyfforddwyr Ymarfer Proffesiynol).


  8. Os na fyddwch yn canfod dosbarth rydych yn ei hoffi ar unwaith, profwch rywbeth arall. Mae nifer eang o weithgareddau ar gael nawr a allai apelio atoch chi Pilates, Ymarfer i Gerddoriaeth, Ioga, Cylched Gymhedrol ac Aerobeg Dŵr. Mae ymarfer mewn dŵr yn ardderchog ar gyfer pobl anystwyth neur rhai sydd ag ychydig o gryd cymalau, gan y byddwch yn teimlo fel pluen yn y dŵr. Mae gan nifer o ganolfannau grwpiau Calon Iach ble y gallwch rannu profiadau a gwneud ffrindiau newydd.


  9. Targedau.
    Cadwch nod yn eich meddwl, ond un bach a realistig. Gall gwyliau, priodas neu ben-blwydd fod yn hwb i chi. Rhowch wobr i'ch hunan pan gyrhaeddwch chi nod yr wythnos.


  10. Rhestrwch yr hyn sydd i'w ennill o wneud ymarfer corff:
    1. Teimlo'n fwy egnïol a bywiog
    2. Gwella iechyd
    3. Rheoli pwysau
    4. Lleihau tensiwn ac iselder
    5. Hybuch hunan-hyder

    Cofiwch fod meddwl am ymarfer yn anoddach nai wneud - atgoffwch eich hunan pam yr hoffech wellach iechyd a'ch ffitrwydd a chymrwch un cam ar y tro.


Alison Pylkkänen
Dave Tonge
David Napier
Dr Frankie Phillips
Dr Ian Campbell
Gillie Bonner
Huw Wiltshire
Ken Fox
Mary Sheppard
Matt Lloyd-Lewis
Pauline Hill
Robert Rees
Rochele Collins
Teresa Owen
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy