 | Dr Frankie Phillips
Mae Frankie yn Ddeietegydd Cofrestredig y Wladwriaeth a Maethegydd Iechyd Cyhoeddus Cofrestredig. Mae hi'n gweithio i'r Sefydliad Maeth Prydeinig. Mae ganddi brofiad o gynghori cleifion am eu deiet ac mae hi wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio. Mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn amryw feysydd yn ymwneud â maeth, a diddoreb mewn hyrwyddo negeseuon positif am fwyd.
|  |
- Byrbrydau.
Pan fyddwch yn mynd allan, ewch â bwyd gyda chi. Ewch â ffrwythau sych neu ffres, er mwyn osgoi chwant am siocled neu fyrger.
- Teithio.
Cadwch fwydydd ysgafn yn eich car, fel na fyddwch yn cael eich temtio i lenwi â braster yn ogystal â phetrol.
- Ffrwythau.
Sicrhewch fod ffrwythau ffres wrth law does neb eisiau afal crebachlyd.
- Ymlaciwch gyda diod boeth.
Gall te neu goffi eich dihuno - defnyddiwch laeth semi-sgim a melysydd yn hytrach na siwgr.
- Cadwch eich hoff far o siocled yn y rhewgell.
Gallwch fwynhau y blas, ond bydd yn amhosib i chi ei fwyta i gyd yn gyflym.
- Nod y dydd.
Rhowch eich nod ar binfwrdd neu yn rhywle amlwg i'ch atgoffa o'ch tasg bob dydd.
- Peidiwch colli allan.
Bwytwch eich hoff fwydydd o bryd i'r gilydd, mae'r danteithion achlysurol yn bwysig.
- Cyfnewid bwyd.
Cyfnewidiwch fwydydd am rai braster a chalori isel, ac ni fydd yn teimlo fel tasech yn ymdrechu.
- Gwnewch restr cyn mynd i'r archfarchnad .
Meddyliwch am yr hyn sy'n angenrheidiol cyn mynd, a glynwch wrth y rhestr.
- Byddwch yn ymwybodol o faint eich cyfran o fwyd.
Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ei fwyta i gyd.
|