BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwerth eu Pwysau
Robert ReesRobert Rees
Robert yw Llywodraethwr Cyffredinol y Sefydliad Maeth Prydeinig. Hyfforddodd fel cogydd yng Ngholeg Westminster, Llundain rhwng 1984 ac 1987. Mae ganddo gefndir helaeth mewn arlwyaeth - Royal Crescent Hotel, Caerfaddon; Hyatt Regency, Ynysoedd y Grand Cayman; Le Gavroche, Llundain ar Bath Spa Hotel, Caerfaddon yn ogystal â bod yn Brif Gogydd yn Circus Bath a Splinters yn Christchurch. Mae Robert yn gyn- aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae'n gyn-aelod o'r Pwyllgor Cyngor Hylendid Cig yn goruchwylio holl agweddau polisi diogelwch Cig y DU sy'n cael ei fonitro gan y Gwasanaeth Hylendid Cig, gyda rheolau BSE yn flaenaf. Mae Robert wedi gweithio gyda Central TV, HTV, BBC, SKY a C4 yn ogystal â'r rhan fwyaf o orsafoedd Radio'r BBC a'r rhai masnachol.

  1. Peidiwch a gwneud newidiadau syfrdanol i'ch deiet dros nos - gall newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr. Gellir coginio'n iach trwy fod yn glyfar.


  2. Cydbwysedd.
    Cofiwch mai cydbwysedd sydd ei angen yn eich deiet, ac nid gwahardd bwydydd ohono.


  3. Ffordd o fyw.
    Cofiwch ystyried eich ffordd o fyw yn gyfan gwbl. Rhaid i'r ynni sy'n mynd i mewn fod yn gyfartal â'r ynni sy'n mynd allan.


  4. Dewisiadau plant.
    Er mwyn annog eich plant i wneud dewisiadau iach hefyd, efallai yr hoffech helpu'ch ysgol i sefydlu Grŵp Bwyd Gweithredol a allai helpu i ddatblygu'r hyn a elwir yn Agwedd yr Holl Ysgol tuag at fwyd.


  5. Llw Maeth
    Yn eich gweithle, efallai yr hoffech helpu eich tîm arlwyo i ddatblygu Llw Maeth - i sicrhau bod yr holl brydau a gogini'r yno yn cael eu cynhyrchu mor iachus ag y gallant. Nid oes angen i unrhyw beth gael ei labelu'n iachus.


  6. Mwynheuwch.
    Peidiwch â gadael i fwyta'n iach ddifethach bywyd - nid oes rhaid iddo atal achlysuron arbennig ar profiadau o fwyta allan, a gall bwyd iach fod yn flasus.


  7. Nid oes rhaid i'r 5 cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd fod yn ffres bob tro - ystyriwch rai tun, neu rai wediu rhewi, wedi'u sychu neu sudd maent oll yn cyfri.


  8. Ffa a phasta.
    Nid yw tatws yn rhan o'ch 5 y dydd. Dewis mwy maethlon fyddai ffa a phasta sy'n amsugno llawer o'ch hoff flasau.


  9. Marchnadoedd ffermwyr.
    Meddyliwch am rôl bwyd lleol yn eich ymgais i wellach iechyd. Mae Marchnadoedd Ffermwyr yn cynnig prisiau da ar gynnyrch blasus sy'n dymhorol ac weithiau'n anarferol - mor ffres ag y gall fod o'r fferm i'r fforc.


  10. Cinio.
    Bwytwch becyn bwyd amrywiol os ydych yn mynd i'r ysgol neu'r gwaith. Gallwch ddewis llenwad mwy iachus i frechdanau, tamaid bach melys a sawrus, darn o ffrwyth a diod maethlon.


Alison Pylkkänen
Dave Tonge
David Napier
Dr Frankie Phillips
Dr Ian Campbell
Gillie Bonner
Huw Wiltshire
Ken Fox
Mary Sheppard
Matt Lloyd-Lewis
Pauline Hill
Robert Rees
Rochele Collins
Teresa Owen
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy