 | David Napier
David Napier yw Cyfarwyddwr Sefydliad y Galon Cymru, sef prif elusen y Deyrnas Unedig dros ymladd clefydau'r galon a'r cylchrediad - lladdwr mwyaf Prydain. Mae'n gyfrifol am weithgareddau codi arian y sefydliad yng Nghymru, ac mae'n bennaeth y swyddfa ar Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd.
|  |
- Cerddwch.
Ewch am dro pan nad ydych yn awyddus i fynd bydd yn help i glirio'r meddwl a byddwch fel arfer yn teimlo'n well ar ei ôl.
- Siwgr.
Mae peidio'i ddefnyddio yn haws na thorri i lawr. Roedd yn wythnos o uffern i mi - ond wedyn, dim problem. Mewn gwironedd, does dim angen ychwanegu siwgr at fwyd a diod.
- Chwistrell olew.
Mae'n gymorth i reoli faint o olew rydych yn ei ddefnyddio, ac fe synnwch o weld cyn lleied sydd ei angen. Nid oes angen ychwanegu braster neu olew at olwythau o gig gan fod braster ynddynt eisoes.
- Gweithgarwch corfforol.
Cofiwch fod angen bod yn heini i chwarae sboncen, nid ei chwarae i ddod yn heini. Dechreuais i gyda gweithgareddau realistig yr oeddwn yn eu mwynhau, ac fe ddatblygais drefn yn raddol. Rwyf bellach wedi cwblhau nifer o Brofiadau'r Byd, a oedd yn cynnwys hirdeithio neu feicio i godi arian ar gyfer ymchwil y galon.
- Grisiau.
Defnyddiwch nhw yn lle'r lifft - mae hyn yn dda i chi os nad oes 30 llawr ohonyn nhw, a chithau mewn siwt â dau funud i gyrraedd cyfarfod!
- Pryder.
Er ei fod yn naturiol, peidiwch â bod yn ferthyr. Rhowch wybod i eraill beth sy'n eich poeni - ond dim ond os gallwch ymddiried ynddynt. Os sylwch fod rhywun arall o dan bwysau, byddwch yn bwyllog a chodwch y mater.
- Brechdanau.
Os yw'r llenwad yn llaith, does dim angen menyn neu fargarîn.
- 5 y dydd.
Cofiwch fod sudd yn un cyfran - boed yn sudd ffrwyth neu lysiau.
- Alcohol.
Dylai fod dewis arall yn y cartref. Os mai gwin yn unig sydd gennych, byddwch yn ei yfed; os oes sudd ffrwythau, mae'n ddewis arall da yn ein tŷ.
- Traddodiad.
Adolygwch eich arferion bwyta - mae'r rhan fwyaf o Gymry yn bwyta llawer tuag at ddiwedd y dydd, ond brecwast yw'r pryd pwysicaf.
|