 | Faint i'w fwyta
Does dim un bwyd yn gallu cynhyrchu'r holl faeth mae'ch corff ei angen, felly mae'n bwysig eich bod yn bwyta ystod eang o fwydydd. Mae'r canllaw isod yn rhoi cyngor i chi ar faint i'w fwyta o bob bwyd.
|  |
Ffrwythau a llysiau Dydy'r rhan fwyaf ohonom ddim yn bwyta digon o'r bwydydd hyn, felly bwytwch FWY! Anelwch am o leiaf 5 darn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Gallwch gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, sych, wedi'u rhewi, ac mewn tun i gyrraedd eich nod o 5 darn.
Faint sy'n addas? 80g (tua 3 owns) - sy'n gyfystyr â: 1 afal, banana neu oren 2-3 llwy fwrdd orlawn o lysiau wedi'u coginio neu'n amrwd (e.e. ffa gwyrdd, bresych, corn melys, ffacbys, moron, sbigoglys) 1 bowlen o salad 1 llwy fwrdd o resins neu ffrwythau sych eraill 1/2 grawnffrwyth neu afacado 2 eirinen neu frwythau bach tebyg (e.e. satswma, ciwi, tomato) 1 cwpan te o fefus, mafon neu ffrwythau meddal eraill 1 gwydraid o sudd ffrwyth heb siwgwr
Bara, grawnfwyd a thatws Mae deiet cytbwys iach yn ddibynnol ar y bwydydd or grŵp hwn, felly ceisiwch gynnwys rywfaint ym mhob pryd.
Faint sy'n addas? 1 dafell o fara 1 rhôl fach o fara 2-3 o gacenni reis, cracers neu fara crimp 2 lwy fwrdd orlawn o reis wedi ei goginio 3 llwy fwrdd orlawn o basta wedi'i goginio 1 daten bob, 2 daten (maint ŵy) wedi'u berwi neu sgŵp o datws stwnsh, 1 bowlen fach o rawnfwyd brecwast neu uwd
Cig, pysgod a bwydydd tebyg Bwytwch y bwydydd hyn yn gymhedrol. Dewiswch opsiynau isel mewn braster lle'n bosibl.
Faint sy'n addas? 2-3 tafell denau o gig sy'n isel mewn braster, cyw iâr neu dwrci 2- 3 tafell denau o ham 1 golwyth (chop) bach o borc neu oen 1/2 tun bach o bysgod llawn olew 1 ffiled o bysgod 2 fys pysgoden 1 wŷ mawr 1 tun bach o ffa pob, ffacbys neu ffa gwynion 2 lwy fwrdd o gnau 4 owns (100g) o toffw neu TVP
Llaeth a bwydydd llaeth Bwytwch yn gymhedrol o'r grŵp hwn.
Faint sy'n addas? 175g (1/3 peint) o laeth hanner-sgim 1 pot 125g (4.5 owns) o iogwrt neu fromage frais 1 pot o bwdin iogwrt soia 1 pot bach o gaws bwthyn 28g (1 owns) o gaws caled 1 darn maint bocs o fatsys o Edam neu gaws arall sy'n isel mewn braster 1 llwy fwrdd orlawn o gaws meddal isel mewn braster
Bwydydd llawn braster a siwgwr Mae'r bwydydd yn y grŵp hwn naill ai yn uchel mewn braster neu siwgwr (neu'r ddau) a dylid bwyta ychydig bach ohonynt yn unig, a hynny dim ond o bryd i'w gilydd.
Maen nhw'n cynnwys:
menyn, pâst uchel a phâst isel mewn braster, olew, saim, mayonnaise, hufen, bwydydd wedi'u ffrïo (gan gynnwys sgolion), creision, siocled, bisgedi, crwst a phastai, cacenni, hufen-iâ, saws bras a grefi, pethau melys, jam, siwgwr a diodydd ysgafn (ond nid diodydd deiet a diodydd heb siwgwr).
Lle'n bosibl, chwiliwch am opsiynau isel mewn braster a heb siwgwr - mae digon o ddewis ar gael.
|