BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Allan ag o
Allan ag o Allan ag o
Mae llawer ohonom yn mwynhau 'pryd ar glud', neu fwyta mewn bwytai a chaffis. Gartref, gallwch reoli beth a faint sy'n mynd ar eich plât chi. Ond mae'n wahanol pan ydych yn bwyta allan.

Mae'n gyffredin i weld bwydydd wedi'u ffrïo ac sy'n uchel mewn braster ar fwydlenni bwytai - yn ogystal â llond plât o fwyd. Ond does dim rhaid i hyn fod yn broblem. Dyma rai cyfarwyddiadau i'ch helpu chi.

Meistroli'r fwydlen

  • Dewiswch fwydydd sydd wedi'u grilio, golosgi, potsio, tro-ffrïo neu stemio.
  • Osgowch dameidiau a byrbrydau cyn bwyta.
  • Gofynnwch am datws newydd wedi'u berwi yn lle sglodion.
  • Gofynnwch am bryd maint cwrs cyntaf gyda llysiau neu salad ychwanegol.
  • Dewiswch saws llawn tomato yn hytrach na llawn hufen.
  • Gofynnwch am ddresin a saws ar wahân ac ychwanegwch dim ond ychydig.
  • Cymerwch eich amser i fwyta a mwynhau'ch bwyd. Rhowch eich cyllell a fforc yn ôl ar y plât bob hyn a hyn ac yfwch rhwng pob cegaid i'ch arafu chi. Synnech chi - efallai na fydd gennych le ar gyfer pwdin!
  • Dewiswch goffi yn lle sorbed ffrwyth, neu cymerwch salad ffrwythau os ydych dal eisiau bwyd. Cofiwch osgoi pwdin llawn hufen a phwdin gyda chrwst.
  • Byddwch yn gymhedrol pan ydych yn yfed alcohol - gofynnwch am ddŵr tap hefyd.
  • Dewiswch fwyty neu gaffi gyda dewisiadau i'ch siwtio chi.

Dewis o'r fwydlen

Mae llawer o fwydydd 'pryd ar glud' a bwydydd bwytai yn uchel mewn braster, yn enwedig os oes saws bras, llawn hufen neu gaws. Ond gallwch barhau i fwynhau pryd blasus heb deimlo'n euog a magu pwysau. Dyma rai awgrymiadau.

Allan ag o


Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy