 | Dave Tonge
Dave yw Cyfarwyddwr Gwersyll y Carnegie International Weight Loss Camp. Ar hyn o bryd, mae'n rheoli dau wersyll preswyl a phum gwersyll diwrnod penwythnosol yn y DU ar gyfer plant sydd dros eu pwysau neu'n ordew. Mae ar drothwy ei bumed flwyddyn -yn gweithio ac yn rheoli yn y gwersylloedd, ac mae'n ddarlithydd Addysg Gorfforol rhan-amser ym Mhrifysgol Leeds Metropolitan. Roedd ei astudiaethau is-radd ac ôl-radd mewn Addysg Gorfforol.
|  |
- 1. Mwynhewch eich bwyd a'ch ymarfer.
Byddwch yn siwr o roi'r gorau i bethau nad ydych yn eu mwynhau, a byddwch yn teimlo fel tasech wedi methu. Treuliwch amser i ddarganfod pethau yr hoffech eu gwneud.
- Peidiwch â theimlo'n euog.
Mae gan lawer o bobl deimladau o euogrwydd, sy'n eu rhwystro rhag gwneud newidiadau positif.
- Ymarferion amrywiol.
Bydd llawer o bobl syn dechrau rhaglen ymarfer neu ddeiet newydd yn rhoi'r gorau'n gyflym oherwydd eu bod yn diflasu. Cadwch y rhaglen yn amrywiol fel na fyddwch yn diflasu.
- 5 y dydd.
Bwytwch 5 cyfran o ffrwythau neu lysiau y dydd er mwyn cadw'n iach a rheoli'ch pwysau.
- Cyfyngwch eich defnydd o fraster a byrbrydau.
Braster sy'n ein gwneud ni'n dew ac mae byrbrydau'n tueddu i fod yn uchel mewn braster. Gall pobl fwyta llawer mwy o galorïau mewn diwrnod trwy bigo ar fwyd yn hytrach na bwyta tri phryd rheolaidd.
- Gwyliwch y siwgr!
Gall losin a diodydd llawn siwgr wneud gwahaniaeth mawr i'ch pwysau. Mae 140 gwaith yn fwy o galorïau mewn can o cola cyffredin nag mewn can o cola deiet.
- Manteisiwch ar bob cyfle i symud a llosgi calorïau.
Defnyddiwch y grisiau a cheisiwch gerdded yn hytrach na defnyddio'r car.
- Gwnewch bethau fel teulu neu gyda'ch ffrindiau.
Ewch i'ch neuadd sglefrio, canolfan fowlio, pwll nofio neu'ch cylched go-cart lleol ac anogwch eich ffrindiau i gymryd rhan.
- Daliwch ati.
Gall newid eich ffordd o fyw fod yn her, ond pan ddaw'r newidiadau i fod yn rhan o'ch trefn arferol, fyddwch chi ddim yn sylweddoli eich bod yn eu gwneud. Y 3-6 mis cyntaf o newid eich ffordd o fyw yw y rhai anoddaf.
- Anelwch at nod realistig yn y tymor byr ar hir dymor
Cofiwch, os na fyddwch yn cyrraedd eich nod, peidiwch â phoeni amdano, ceisiwch eto yr wythnos ganlynol. Peidiwch â theimlo'n isel os na lwyddoch chi, teimlwch yn hapus oherwydd eich bod yn ceisio llwyddo!
|