 | Ken Fox
Mae Ken yn Athro Ymarfer Corff a Gwyddoniaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bryste. Mae'n cynghori'r llywodraeth ar ymarfer corff a gordewdra ac yn olygydd gwyddonol adroddiad y Prif Swyddog Meddygol ar Ymarfer Corff a Iechyd i'w gyhoeddi yn Ebrill 2004.
|  |
- Cerdded.
Cerdded yw un o'r ffurfiau mwyaf naturiol o ymarfer. Gan ei fod yn digwydd droeon yn ystod eich dydd, mae'n gallu gwneud cyfraniad mawr i'r ffordd rydych yn rheoli'ch pwysau.
- Gwellach iechyd.
Nid yn unig ydy cerdded yn gwella'ch ffitrwydd, mae hefyd yn eich amddiffyn o glefyd y galon, clefyd siwgr a phroblemau eraill megis osteoporosis.
- Agwedd Bositif.
Yn lle ystyried gweithgaredd fel gelyn a rhywbeth i'w osgoi, edrychwch am gyfleoedd i gerdded a defnyddio'r grisiau. Canmolwch eich hun am wneud rhywbeth positif am eich pwysau a'ch iechyd.
- Cymerwch y cyfle.
Cerddwch pan fo'r cyfle a'r egni gennych. Prynwch bedometr mewn siop chwaraeon neu fferyllfa, ac anelwch at godi'r nifer o gamau rydych yn eu gwneud o ryw 2 - 3,000 bob dydd. Y nod yw i adeiladur nifer i fyny at 10,000 y dydd.
- Eich amser.
Gwnewch yn siwr bod amser yn eich amserlen i gerdded eich amser cerdded. Anelwch at adeiladu hyn i fyny at 30 munud o gerdded cyflym, ond os ydyr amser hyn yn broblem, gwnewch y cerdded mewn bowtiau o 10 munud i gael yr un buddion.
- Adeiladu i fyny.
Ar ôl peth amser, pan rydych yn teimlo'n barod, cynhwyswch fryn neu ddau wrth fynd am dro, ar gyfer buddion cardiofasgwlar.
- Cerddwch gyda ffrind yn rheolaidd.
Mae'n fwy o hwyl i gael sgwrs, ac mae mynd am dro gyda ffrind yn gallu actio fel cytundeb rhwng y ddau ohonoch chi i sicrhau bod y gweithgaredd yn digwydd yn lle i chi gwympo i mewn i gadair esmwyth.
- Byddwch yn bositif.
Mwynhewch y teimladau meddyliol positif sy'n codi o gerdded yn gyflym yn rheolaidd. Mae'n gallu'ch bywiogi, rhoi gwobr unionsyth i chi a'ch helpu i'w wneud eto.
- Cadwch gofnodion.
Cadwch gofnod o'ch campau - un air amser treuliwyd yn cerdded bob dydd, nifer y camau cymerwyd, neu'r pellter. Llongyfarchwch eich hun ar eich campau a dywedwch wrth eraill. Byddan nhw'n hapus drosoch chi.
- Y buddion.
Cadwch gofnod o'r buddion rydych yn eu teimlo drwy gynydduch cerdded, fel mwy o egni, gwedd well i'ch croen, corff mwy tynn, neu well hwyliau.
- Cymorth
Trafodwch eich nodau gyda'r rheini o'ch cwmpas iddynt gael deall yr hyn rydych am ei gyflawni. Efallai y byddan nhw'n gallu darparu mwy o gefnogaeth.
|