 | Gillie Bonner
Mae Gillie yn darlithio ar Faeth Dynol a Lluniaetheg ym Mhrifysgol Metropolitan Llundain. Cafodd gymhwyster deietegydd yn 1992 ac ar ôl pum mlynedd o weithio mewn ysbytai ar gymuned, ymunodd â thîm ymchwil Yr Athro Christopher Fairburns ym Mhrifysgol Rhydychen ar brosiect i brofi technegau gwybyddol seicolegol i reoli pobl sy'n gorbwyso. Yma, cafodd ei hyfforddi i ddefnyddio technegau therapi ymddygiad i gynorthwyo pobl i wneud newidiadau parhaol i'w deiet. Mae hi nawr yn ddarlithydd Maeth Dynol a Lluniaetheg ym Mhrifysgol Metropolitan Llundain, ac yn gwneud ymchwil ar ddefnydd lluniaethwyr o dechnegau therapi ymddygiad gwybyddol.
|  |
- Cadwch ddyddiadur.
Mae dau reswm dros gofnodi'r hyn rydych yn ei fwyta/yfed a/neu eich gweithgarwch. Yn gyntaf, mae'n rhoi gwybodaeth i chi ar yr hyn sy'n digwydd go iawn - a pham. Mae cadw cofnod yn help i chi deimlo fod popeth dan reolaeth.
- Dilynwch ganllawiau, nid rheolau.
Mae ceisio peidio â bwyta siocled yn gyfangwbl, neu fynd i redeg 365 diwrnod y flwyddyn yn anochel o arwain at fethiant. Mae gosod nod yn beth da, ond mae'n hanfodol ei fod yn realistig, a bod eich agwedd yn hyblyg.
- Os oes gennych hoff fwyd, cynlluniwch yn ofalus a pheidiwch â'i wahardd!
Fel hyn, gallwch reoli faint a phryd fyddwch yn ei fwyta. Gallwch ei fwynhau fel hyn heb euogrwydd. Os gwaharddwch chi'r bwyd, bydd y demtasiwn yn cynyddu nes i chi or-fwyta a theimlo'n ofnadwy wedyn.
- Os oes arnoch chi chwant bwyd ond nad oes angen bwyd arnoch chi mewn gwirionedd, ceisiwch wneud rhywbeth i'ch cadw'n brysur.
- Ceisiwch ganfod beth mae bwyd yn ei wneud i chi, a diwallwch yr angen mewn ffordd arall. Mae pigo ar fwyd yn aml yn ymateb i ddiflastod, poen meddwl neu flinder. Ceisiwch wrando ar eich hoff gerddoriaeth neu ffonio ffrind.
- Pan fydd syniadau negyddol yn dod i'ch meddwl (e.e. fydda i byth yn gallu dilyn y deiet/cynllun ymarfer hwn, rydw i wastad yn gwneud cawl o bopeth) ceisiwch ofyn i'ch hunan:
- Oes tystiolaeth i brofi hyn? - Oes ffordd arall o edrych ar hyn? - Sut faswn i'n edrych ar y mater tasai ffrind yn y sefyllfa hon? Ceisiwch feddwl yn bositif a chofio am adeg anodd pan wnaethoch chi ddyfalbarhau.
Os bwytwch chi baced ychwanegol o greision neu golli sesiwn yn y gym, gallech feddwl dyna ni, rydw i wedi methu, waeth i mi roi'r gorau iddi nawr. Ceisiwch weld hyn fel llithriad yn hytrach na thrychineb. Meddyliwch mewn ffordd wahanol - hoffwn i petai hynny heb ddigwydd, ond os rof i'r gorau iddi nawr byddaf yn teimlo hyd yn oed yn waeth, felly fe ddalia i ati.
Bwytwch yn arafach er mwyn cael y mwnhad mwyaf posib och bwyd. Byddwch yn lleihau'r risg o fwyta gormod.
Eisteddwch gyda phensil a phapur ac ystyriwch y ffyrdd gorau i'ch helpu i ymdopi â phethau sy'n amharu ar eich cynlluniau bwyta ac ymarfer.
|