BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gwerth eu Pwysau
Huw WiltshireHuw Wiltshire
Huw yw Cyfarwyddwr Cwrs y BSc (Anrhydedd) Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn UWIC, Caerdydd. Mae e hefyd yn hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Ffitrwydd yng Nghlwb Rygbi Caerdydd a bu'n hyfforddwr ffitrwydd i Dîm Rygbi A Cymru. Ei ddiddordeb pennaf ym maes ffitrwydd yw cryfder a chyflyru ar gyfer rygbi.

  1. Canfyddwch weithgaredd rydych yn ei mwynhau.
    Gêm o fadminton gyda ffrind, sboncen neu sesiwn gylched. Profwch nifer o wahanol bethau tan i chi ddod o hyd i rywbeth sy'n addas i chi a'ch ffordd o fyw.


  2. Hyfforddwch gyda phartner neu grŵp.
    Bydd pwysau'r grŵp yn eich cadw i fynd pan fyddwch yn teimlo fod mynd allan yn ormod o drafferth. Amrywiwch eich gweithgareddau au lleoliad. Does dim rhaid iddo gostio llawer - lonciwch y tu allan, cerddwch i ben mynydd. Dywedwch wrth eich hunan, 'Ar y pwynt hwn yn yr wythnos, byddaf yn bendant yn ...' Trwy amrywio eich gweithgareddau, byddwch yn cynnal eich diddordeb.


  3. Peidiwch â gwneud gormod yn rhy fuan.
    Os bwrwch ati a hyfforddi'n rhy galed yn rhy gyflym, byddwch yn ddolurus ac yn anhebygol oi wneud eto. Gwnewch ychydig i ddechrau a chynyddu'r sesiynau'n raddol; fel hyn, fyddwch chi ddim yn collich awydd.


  4. Cryfhewch eich craidd.
    Mae'r craidd yn hollbwysig! Gweithiwch ar gryfhau eich stumog a'ch cefn. Byddwch yn osgoi anafiadau os canolbwyntiwch ar hyn yn eich sesiynau ffitrwydd.


  5. Defnyddiwch bwysau neu bwysau eich corff er mwyn gwella eich cryfder.
    Gofynnwch am gyngor cyn dechrau, a chynyddwch y pwysau yn raddol.


  6. Dechreuwch wneud sesiynau cylched.
    Dewiswch 4 neu 5 ymarfer, a gweithiwch o'u cwmpas. Cynyddwch yr amseroedd / cylchedau. Bydd yn help i chi losgi braster a chryfhau, ac fe gewch deimlad o fodlonrwydd.


  7. Gadewch i ymarfer ollwng y braster.
    Yn aml, gofynnir y cwestiwn 'Ddylwn i dorri'r calorïau neu gynyddu'r ymarfer?' Wnewch chi ddim ei golli trwy feddwl amdano! Os defnyddiwch chi egni, fe losgwch chi galori. Bwrwch ati ac fe welwch wahaniaeth. Ychwanegwch ysbeidiau byrion o weithgarwch i'ch diwrnod, yn hytrach nag ymarfer am gyfnod hir ar ddiwedd diwrnod o waith a rhoi pwysau ar eich hunan i'w fwynhau!


  8. Dydy deiets ddim yn gweithio.
    Edrychwch ar eich deiet arferol a cheisiwch newid elfennau bychain o'ch deiet i wneud gwelliannau. Mae'r hen ddywediad yn wir - Bwytwch frecwast fel brenin a swper fel tlotyn. Bwytwch brydau mwy ar ddechrau'r dydd er mwyn rhoi cyfle i'ch corff losgi'r calorïau. Dylech fwyta'r pryd lleiaf amser swper.


  9. Yfwch ragor o ddŵr.
    Os yfwch lai o gaffîn a diodydd melys, fe deimlwch yn well. Rydym yn blino ac yn teimlo'n llesg os oes arnom angen dŵr. Mae dŵr yn glanhau eich system ac yn gwneud i chi deimlo'n fwy effro. Cariwch ddŵr gyda chi bob amser a chymrwch gegiad ohonon rheolaidd wrth wneud ymarfer corff.


  10. Cerddwch fwy a nofiwch fwy.
    Mae cerdded yn defnyddio nifer helaeth o gyhyrau ac maen ffordd rad o losgi braster. Mae nofio yn gweithio'r corff i gyd ac nid yw'n cywasgu'r cymalau. Mae nofio'n ardderchog - gweithgaredd aerobig a gwrthsefyll ... ac mae'n achub bywydau!


Alison Pylkkänen
Dave Tonge
David Napier
Dr Frankie Phillips
Dr Ian Campbell
Gillie Bonner
Huw Wiltshire
Ken Fox
Mary Sheppard
Matt Lloyd-Lewis
Pauline Hill
Robert Rees
Rochele Collins
Teresa Owen
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy