BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Nosweithiau rhieni

Athrawes Fathemateg yn Ysgol Tryfan, Bangor, yw Mari Jewell, ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae hi hefyd yn fam i dri o blant, un yn bump, un yn ddwy a'r llall yn flwydd.

"Sut ydan ni athrawon yn paratoi ar gyfer nosweithiau rhieni? I ddechrau, mi fyddwn ni'n edrych yn ôl drwy lyfrau gwaith pob plentyn. Rydan ni'n gwneud hynny drwy'r adeg, wrth gwrs, ond mi fyddwn ni'n fwy gwyliadwrus fyth cyn nosweithiau rhieni, gan edrych yn benodol am unrhyw wendidau (a chryfderau!).

Mi fyddwn ni'n edrych ar eu profion a'u hasesiadau diweddar hefyd. Mae gan yr ysgol system sy'n tynnu sylw at unrhyw fyfyriwr y mae ei ganlyniadau'n dirywio. Wedyn mi allwn ni ymchwilio i'r rhesymau dros unrhyw dangyflawni.

Mae nosweithiau rhieni'n bwysig iawn er mwyn gadael i bobl wybod sut mae eu plentyn yn dod yn ei flaen, ac er mwyn iddyn nhw allu bod yn realistig ynghylch cynnydd eu plentyn. Mae arnyn nhw angen syniad clir ynghylch pa ganlyniadau y gall eu plentyn eu cael; mi fyddan nhw wedyn yn fwy ymwybodol o sut y gallan nhw gynnig cymorth a chefnogaeth. Dwi'n trio canfod ydy'r rhieni'n gwybod am unrhyw reswm pam nad ydy gwaith y plentyn yn dod yn ei flaen fel y byddwn i'n disgwyl, efallai drwy ofyn iddyn nhw os ydyn nhw'n gwybod am broblemau gyda phwnc arbennig.

Fel athrawes Fathemateg, dwi'n gweld bod rhieni yn aml yn poeni dipyn bach am fy mhwnc i. Oherwydd bod ganddyn nhw atgofion annifyr am eu profiadau eu hunain yn yr ysgol, a'u bod nhw'n teimlo'n ansicr am bethau fel algorithmau a Pythagorus, maen nhw'n meddwl nad ydyn nhw'n dda mewn Mathemateg. Be dwi'n ei ddweud wrthyn nhw yw eu bod nhw, mae'n debyg, yn gallu trin rhifau'n dda yn eu bywydau bob dydd ac y gallan nhw helpu llawer iawn ar eu plentyn. Felly fy neges i i'r rhieni ydy: peidiwch â theimlo'n dda i ddim - mi allwch chi helpu'ch plentyn, hyd yn oed os nad ydach chi o reidrwydd yn teimlo'n hyderus iawn.

Mae tua 60 neu 70% o'r rhieni'n dod i'r nosweithiau rhieni, ond mae'r ganran yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhai pobl, yn enwedig os nad oedd eu dyddiau ysgol nhw'n brofiad cadarnhaol, yn gallu teimlo braidd yn ofnus. Efallai fod ganddyn nhw ofn am nad ydyn nhw'n gwybod sut i siarad gydag athro neu athrawes. Ddylen nhw ddim bod ag ofn; mae'r nosweithiau'n anffurfiol iawn.

Beth bynnag y mae rhieni eisiau ei ofyn, mi ddylen nhw ei ofyn. Does yna ddim cwestiynau cywir ac anghywir. A'r rhan fwyaf o'r adeg, mae'r rhieni a'r athrawon yn cytuno. Dim ond unwaith rydw i wedi gweld un pâr o rieni'n dadlau gyda'r athro. Beth bynnag, mae athrawon fel arfer yn barod iawn i dderbyn unrhyw sylwadau - hyd yn oed am y ffordd maen nhw'n dysgu!"

Cyngor

"Mae'n bwysig trio mynychu'r nosweithiau. Dylai'r ddau riant geisio mynd, pa un a ydyn nhw'n byw gyda'i gilydd ai peidio. Mae plant nad ydy eu rhieni nhw ddim yn mynd yn teimlo nad oes neb yn eu helpu nhw - maen nhw'n gallu teimlo nad ydyn nhw'n rhan o'r pethau. Dwi'n eitha hoffi gweld y plant yn dod hefyd, achos mae'n bwysig eu bod nhw'n gwybod be dwi wedi ei ddweud amdanyn nhw.

Un peth y gallai rhieni ei wneud ydy gwneud rhestr o'r athrawon maen nhw eisiau eu gweld fwyaf. Mae 'na lawer o athrawon pwnc, a does dim rhaid i chi weld pob un. Trafodwch y peth gyda'ch plentyn a gwnewch restr yn nodi pwy fyddech chi'n hoffi ei weld fwyaf.

Edrychwch ar lyfrau gwaith eich plentyn hefyd. Dwi'n gwybod ei bod hi'n anodd weithiau i rieni wybod am beth maen nhw'n edrych, neu wybod sut y mae gwaith eu plentyn yn cymharu â gweddill y dosbarth. Ond mi wnân nhw roi syniad i chi sut mae o neu hi'n dod yn ei flaen."

Mari, Bangor

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy