BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Addysgu gartref

Gwraig ty 37 oed yw Tracey Griffiths. Mae'n byw yn Sain Tathan, y Barri, ac mae ganddi ddau o blant, Lewis, 14, a Rhiannon, 11.

"Rwy wedi bod yn dysgu fy nau blentyn, Lewis a Rhiannon, gartref ers dwy flynedd nawr.

Roedd Lewis yn cael ei fwlio'n ddrwg yn yr ysgol. Mae e'n blentyn eitha tawel, llond ei groen, yn grwtyn bach da sydd byth yn ateb yn ôl. Mae e hefyd yn ddyslecsig, a wnaeth e ddim helpu pan oedd yr athrawon yn ei alw e'n dwp. Doedd ganddo fe ddim hyder ynddo fe'i hunan.

Ar ôl y digwyddiad olaf, pan eisteddodd pedwar bachgen ar ei ben e a rhofio tywod i mewn i'w geg e, ro'n i'n gwybod y byddai'n rhaid i mi ei dynnu e o'r ysgol. Fe holes i ynghylch ei ddysgu e fy hun a dywedodd yr ysgol wrtho i y bydden i angen gradd i wneud hynny. Daeth y swyddog lles i ngweld i a doedd e'n ddim cymorth o gwbl.

Ro'n i'n gwirioneddol boeni am ddiogelwch fy mab. Mae fy ngwr i yn y llu awyr ac rydyn ni wedi symud o gwmpas tipyn. Mae Lewis wedi bod mewn 11 ysgol gan gynnwys ysgol breswyl ond digwyddodd yr un peth yno: roedd e'n cael ei fwlio ac roedd ganddo fe ofn mynd i gysgu yn y nos.

Un diwrnod daeth fy ngwr o hyd i wefan o'r enw Education Otherwise sy'n rhestru popeth mae arnoch chi ei angen er mwyn dysgu plant gartref, gan gynnwys y gofynion addysgol lleol a'ch sefyllfa gyfreithiol. Dyw pobl ddim yn sylweddoli y gallan nhw ei wneud e eu hunain. Does gen i ddim un lefel O, a feddylies i byth y gallwn i brofi mod i'n gallu dysgu - ro'n i'n meddwl y bydden ni'n gorfod talu am athro neu athrawes, ac y byddai hynny'n ddrud.

Mae Education Otherwise yn eich cyfeirio at rwydwaith o bobl o amgylch y wlad sy'n dysgu eu plant ac sy'n gallu cynnig cyngor i'w gilydd. Ar y dechrau ro'n i'n dilyn amserlen debyg i'r un oedd gan Lewis yn yr ysgol, ond doedd y plant ddim yn ei hoffi. Cefais fy nghynghori i adael iddyn nhw benderfynu beth i'w ddysgu a phryd, ond doedd hynny ddim yn gweithio ychwaith.

Ar ôl ychydig fisoedd doedden ni ddim yn mynd i unlle, ac fe benderfynais i ysgrifennu fy amserlen fy hun, ac fe weithiodd hynny'n dda iawn. Mae'n rhaid i ni wneud Saesneg a Mathemateg, ac wedyn rydyn ni'n gwneud prosiectau rydyn ni i gyd yn eu mwynhau. Ar hyn o bryd rydyn ni'n adeiladu robot, ac yn gwneud llawer o gerddoriaeth: mae'r ddau'n chwarae ym mand y llu awyr yn Sain Tathan.

Rwy'n cael y llyfrau i gyd o W H Smith, a phan fyddwn ni'n dod ar draws rhywbeth sy'n newydd i mi, rydyn ni'n ymchwilio gyda'n gilydd. Ro'n i'n meddwl na fydden nhw'n hoffi'r ffaith nad o'n i'n gwybod rhywbeth ychwaith, ond mae'n gwneud iddyn nhw deimlo'n well. Ac maen nhw wedi dysgu llawer o bethau nad yw plant yn ei ddysgu yn yr ysgol, fel ysgrifennu rhestr siopa, a gwneud cyllidebau.

Mae addysgu yn y cartref yn beth brawychus i'w wneud, yn enwedig ar y dechrau. Ond mae pawb yn gymwynasgar iawn, ac mae'r llyfrgelloedd yn wych. Mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn dda iawn am helpu, ac yn galw i wneud yn siwr bod popeth yn iawn. Dydw i ddim y math o berson sy'n rhy swil i ofyn cwestiynau gwirion, ac rwy'n gwneud defnydd llawn o'u gwybodaeth. Mae lleoedd fel Amgueddfa Werin Cymru yn wych hefyd, ac mae ganddyn nhw ddosbarth arbennig ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu gartref.

Mae Lewis erbyn hyn yn barod i fynd i'r coleg fis Medi nesaf lle mae'n mynd i wneud pedair TGAU - Saesneg, Mathemateg, TG ac Electroneg. Ei uchelgais yw bod yn gerddor yn y llu awyr, ond dim ond ar ôl iddo gael cymwysterau mewn electroneg a chyfrifiaduron.

Y bonws mwyaf yw bod ganddo hunan-barch a hyder."

Tracey, Barri

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy