Mam a Chynorthwy-ydd Dosbarth o Gefn Coch, Powys yw Kay Richardson.
"Ro'n i wedi bod eisiau gweithio gyda phlant erioed ac, ar ôl i mi wneud fy ngradd mewn astudiaethau cartref a chymuned, cefais waith fel hyfforddwr mewn canolfan awyr agored yng nghanolbarth Cymru. Ro'n i'n gyfrifol am yr arlwyo, ac yn helpu gyda grwpiau o blant - y rhan fwyaf gydag anghenion arbennig.
Ro'n i wrth fy modd, ac fe briodais i un o'r uwch hyfforddwyr. Ond pan gawsom ni blant, fe benderfynom ni y byddwn i'n aros gartref i ofalu amdanyn nhw. Fe wnes i ddiploma cylchoedd chwarae cyn-ysgol, a dechreuais weithio mewn cylch chwarae pan oedd Matthew yn wyth mis oed. Roedd hynny'n gweithio'n dda iawn.
Pan aeth Matthew i'r ysgol roedd angen i mi wneud mwy yn y bôn, roedd arna i angen gwneud mwy am resymau ariannol. Daeth swydd cynorthwy-ydd dosbarth yn wag yn yr ysgol leol. Roedd yn golygu mwy o oriau, ond unwaith eto yn cydweddu â diwrnod y plant. Fyddwn i byth yn gwneud gwaith a fyddai'n golygu na fyddwn i'n gallu bod gartref pan fydden nhw'n dod adref o'r ysgol.
Rwy'n dal i weithio yno nawr. Rwy'n gweithio'n bennaf gyda phlant ar ddatganiad - plant sydd wedi eu diagnosio gyda gwahanol broblemau addysgol ac ymddygiadol heb fod yn rhy ddifrifol, fel diffyg canolbwyntio, dyspracsia neu ddyslecsia. Fy ngwaith i yw rhoi sylw ychwanegol i'r plant hynny sydd mewn dosbarth prif ffrwd. Rwy'n gwneud yn siwr eu bod yn dilyn ac yn deall beth sy'n digwydd ac rwy'n eu helpu gydag unrhyw beth mae arnynt ei angen.
Rydw i hefyd yn helpu gyda'r plant eraill yn y dosbarth - y rhai llai galluog yn gyffredinol. Rydw i'n eistedd gyda nhw, yn darllen gyda nhw, yn eu helpu gyda'u gwaith ysgrifennu neu eu gwaith celf. Mae'r dosbarthiadau mor fawr y dyddiau hyn, 30 yn aml, nes ei bod yn amhosib i athro/athrawes roi ei holl sylw i bob plentyn drwy'r adeg.
Rwy i yn aml yn gallu gweld pethau y byddai athro/athrawes wedi ei fethu - pethau bach a allai effeithio ar ymddygiad neu agwedd y plentyn, ac a allai, pe gadewid hwy, fynd yn broblemau mawr - pethau fel bod eisiau bwyd. Fe glywais i fol plentyn yn gwneud swn unwaith, a deallais wedyn nad oedd e wedi cael brecwast - peth bach, ond rhywbeth a allai ddatblygu'n broblem fwy.
Rwy'n meddwl mod i'n ffodus iawn. Mae gen i fwy o gyfle i gael perthynas un-i-un gyda phlant nag sydd gan yr athro/athrawes. Ac mae eu gweld nhw'n gwneud cynnydd yn rhoi llawer o foddhad i mi. Fydd y plant hyn fyth yn Einsteins, ond mae gweld eu bod yn hapus, a bod eu darllen, eu hysgrifennu, eu sillafu, a'u defnydd o eiriau newydd yn gwella, yn wych.
Mae ambell beth sydd ddim cystal - peth rhwystredig iawn yw peidio â chael digon o amser i ganolbwyntio ar unigolion. Does dim digon o gymorth, mewn dosbarth mawr o 30, os oes gan saith neu wyth o blant anghenion arbennig, oherwydd all yr athro/athrawes na'r cynorthwy-ydd ddim bod ym mhobman. Mae'r rhai hynny nad ydynt yn achosi unrhyw drafferth yn cael eu hanwybyddu - rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ond mae rhywbeth yn gwneud i chi amau a ydynt yn cyflawni eu potensial.
Erbyn hyn rwy'n ystyried mynd yn athrawes wedi cymhwyso'n llawn. Gan fod gen i radd, gallaf wneud hynny mewn cwrs blwyddyn, ond byddai hynny'n golygu na fyddwn ar gael i'm plant fy hun. Dydw i ddim yn barod i'w hanfon i glybiau ar ôl ysgol, felly mae'n siwr y bydda i'n gwneud y cwrs dros gyfnod hwy."
Kay, Cefn Coch, Powys