BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Dechrau yn yr ysgol

Dylunydd graffig o Gaerdydd yw Christopher Jones, 39. Mae ganddo un ferch, Alice, a ddechreuodd yn yr ysgol ym Medi 2002.

"Fe ddechreuodd fy merch i, Alice, yn yr ysgol ym mis Medi. Ro'n i'n nerfus iawn ar ei diwrnod cyntaf hi, er ei bod hi wedi bod yn mynd i feithrinfa am bron i dair o'i phedair blynedd. Ro'n i'n falch ein bod ni wedi ymweld â'r ysgol ymlaen llaw, felly roedden ni wedi cael rhyw syniad beth oedd y tu ôl i'r drysau mawr hynny. Ond ro'n i'n dal i deimlo'n nerfus, ac roedd hi'n edrych mor fach yn ei sgert fach lwyd a'i siwmper ysgol.

Er bod Alice wedi cymysgu'n dda iawn gyda'r plant eraill yn ei meithrinfa, roedd wynebu cant o ffrindiau ysgol newydd, pob un ohonyn nhw'n edrych yn fwy na hi, yn brofiad eitha brawychus, hyd yn oed i mi. Roedd hyd yn oed y plant a oedd ddim ond blwyddyn yn hy^n na hi yn edrych mor strydgall a digynnwrf ac mor fawr o gymharu ag Alice.

Ro'n i'n teimlo'n well y tro cyntaf y gwelais i'r ystafell ddosbarth - roedd hi'n ystafell braf iawn, yn llawn lliw, cerddoriaeth, gwaith celf ac, yn rhyfedd iawn, pelen wydr yn hongian o'r nenfwd. Ro'n i'n amau ai rhyw arwydd cynnar oedd hwn o nosweithiau y byddai hi'n eu treulio yn y dyfodol mewn clybiau nos? Roedd Alice yn ymddangos yn gwbl ddi-ofn - fe ollyngodd hi fy llaw i ar unwaith ac i ffwrdd â hi ar wib i gornel yr ystafell, yn llawn cynnwrf.

Fe arhosais i am tua deng munud y diwrnod cyntaf hwnnw. Ro'n i'n teimlo'n hapusach bob munud ac ro'n i'n meddwl efallai fod Alice wedi anghofio nad o'n i'n aros hefyd.

Pan ddechreuais i fynd tuag at y drws, fe edrychodd hi braidd yn bryderus a mynnu ei bod yn cael cwtsh, ond pan afaelodd cynorthwy-ydd dosbarth yn ei llaw a mynd â hi i weld rhywbeth arall, roedd hi'n ymddangos yn iawn - yn hapusach na fi, mae'n debyg!

Ro'n i'n falch iawn ohoni hi. Bob tro rwy i wedi mynd â hi i'r ysgol ers y diwrnod cyntaf hwnnw, rwy wedi dod oddi yno ychydig yn gynt - mae hi hyd yn oed wedi cerdded i mewn drwy'r drysau hynny, gyda'i ffrindiau newydd, ar ei phen ei hun unwaith neu ddwy nawr.

Rwy'n dal i aros tu fas am ychydig funudau bob diwrnod, dim ond er mwyn bod yn siwr. Rwy'n meddwl ei bod hi'n llawer anos i rieni ollwng gafael!

Mae Alice yn ymddangos fel pe bai hi wedi setlo'n arbennig o dda. Mae hi'n dweud wrthon ni am ei hanturiaethau newydd, ychydig bach ar y tro sy'n beth braf iawn. Mae'n gam mor fawr ac alla i ddim credu cymaint o newid sydd wedi digwydd yn ei chymeriad a'i datblygiad mewn dim ond un mis - mae'n anhygoel."

Cyngor

"Ewch i weld yr ysgol, a'r ystafell ddosbarth, os yn bosib, gyda'ch plentyn cyn y diwrnod cyntaf. A pheidiwch ag aros yn rhy hir ar y diwrnod cyntaf - bydd hynny'n gwneud pethau'n anos i chi ac iddyn nhw."

Christopher, Caerdydd

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy