Mae Aminur Rashid o Gaerdydd yn gweithio fel Peiriannydd Siartredig i Gyngor Dinas Casnewydd. Mae ganddo ddwy ferch, 22 a 14 oed, ac un mab, 18 oed.
"Rwy'n llywodraethwr mewn dwy ysgol. Rwy wedi bod yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ers tua 11 mlynedd, ac yn Ysgol Gynradd Marlbrough, Pen-Y-Lan, ers wyth mlynedd.
Ro'n i'n falch iawn o gael dweud gwnaf pan ofynnodd pennaeth Cathays i mi fod yn un o'r llywodraethwyr. Aeth fy mhlant i Marlbrough, sy'n agos iawn at fy nghartref, ac fe wnaethon nhw gysylltu â fi hefyd.
Mae 'na reswm penodol am hyn. Rwy i wedi bod yn ymwneud â Race Equality First, fel mae'n cael ei alw ers pan gafodd ei ffurfio, ac rwy wedi bod yn gadeirydd arno am y tair blynedd ddiwethaf. Ar ôl Deddf Cysylltiadau Hiliol 2000, daeth yn orfodol i bob ysgol gael Polisi Cydraddoldeb Hiliol ac roedd llawer o ysgolion eisiau i mi eu helpu.
Mae pobl yn gofyn i mi yn aml faint o'm hamser i mae hyn yn ei gymryd. Yn fy achos i, rwy'n tueddu i fynd allan o'm ffordd i wneud unrhyw beth y galla i i helpu ac rwy'n fodlon treulio cymaint o amser ag sydd ei angen. Os ydw i'n gwybod am broblem gyda phlentyn arbennig o deulu lleiafrif ethnig, fe af i i weld y rhieni fy hun. Fyddech chi'n synnu cymaint o bethau y gallwch chi eu datrys dim ond drwy fynd i weld y bobl a siarad gyda nhw.
Ydw i'n teimlo mod i'n gwneud gwahaniaeth? Mae'r corff llywodraethol yn teimlo, rwy'n credu, os oes yna unrhyw broblem gyda'r plant o leiafrifoedd ethnig yn yr ysgol, bod yna rywun yno sy'n barod i helpu ac mae hynny'n beth braf i mi ei feddwl hefyd. Rwy i wedi bod yn llywodraethwr yno ers 11 mlynedd nawr - mae'n rhaid eu bod nhw'n hapus gyda fi!
Mae hefyd yn bwysig bod lleiafrifoedd ethnig yn gallu gweld bod rhywun fel nhw ar y bwrdd. Rwy'n awyddus iawn i annog rhieni eraill o leiafrifoedd ethnig i fod yn llywodraethwyr."
Cyngor
"Y peth pwysicaf un yw bod gennych chi ddiddordeb. Fel rhiant, os ydych chi eisiau newid y system neu os ydych chi'n meddwl bod gwelliannau y gellid eu gwneud yn yr ysgol, yr unig ffordd o wneud hynny ydy drwy fod yn llywodraethwr.
Os oes gan unrhyw riant ddiddordeb, ac os yw'n teimlo'n hyderus, dylai gynnig ei enw y tro nesaf y mae'n amser ethol llywodraethwyr."
Aminur, Caerdydd