Ysgrifenyddes Cwmni yw Anne. Mae'n byw yn Llanilltud Fawr, ac mae ganddi ddau o blant yn 11 a 9 oed.
"Roedden ni wastad wedi meddwl anfon ein plant i Ysgol y Bont-faen. Dyna lle bu fy ngwr i a'i frodyr ac roedden ni'n meddwl y byddai hi'n braf parhau â'r traddodiad. Fe aethon ni hefyd i weld yr ysgol uwchradd leol, ysgol eglwys yng Nghaerdydd a dwy ysgol breifat, un ym Mhorthcawl ac un yng Nghaerdydd.
Rydyn ni'n byw yn Llanilltud Fawr ac roedden ni'n meddwl y byddai hi'n rhwydd cael fy merch i Ysgol y Bont-faen o Ysgol y Wig. Roedd plant o'r ardal wedi mynd yno yn y gorffennol, ond mae'r meini prawf ar gyfer mynediad wedi newid ac fe gawson ni ein gwrthod. Mae'r Bont-faen yn cael canlyniadau gwych, yn bennaf oherwydd cefnogaeth dda gan y rhieni, ac oni bai ein bod ni mewn sefyllfa ariannol i allu mynd yn breifat, fydden ni ddim wedi oedi cyn apelio er mwyn cael lle yno.
Wnaeth y dewis arall - yr ysgol uwchradd leol - ddim creu llawer o argraff arnon ni. Allen ni ddim gweld llawer o dystiolaeth o barch tuag at bobl eraill, a wnaeth y staff dysgu ddim ymdrechu'n galed iawn i wneud i ni deimlo'n gartrefol. Mae'r ysgol yn amlwg yn orlawn, a chyda thai newydd yn cael eu hadeiladu yn yr ardal a'r Fyddin yn symud i Sain Tathan, all pethau ond gwaethygu.
Roedden ni'n meddwl bod un o'r ysgolion preifat yn rhy fach, ond ar ôl i ni fynd i weld y llall, Ysgol y Gadeirlan, roedden ni'n gwybod mai honno oedd yr un i ni. Fe greodd hi gryn argraff arnon ni. Mae'r dosbarthiadau'n fach ac mae'r plant yn fonheddig ac yn gwrtais, ac i gyd yn codi ar eu traed pan ydych chi'n mynd i mewn i'r ystafell ddosbarth. Cawsom ein tywys o amgylch yr ysgol gan ddwy ferch o Flwyddyn 7 a oedd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau roedden ni'n eu gofyn iddyn nhw, ac roedd y staff yn barod i egluro popeth.
Rwy'n teimlo'n anniddig fy mod i'n eu gyrru i ysgol breifat. Byddai'n llawer gwell gen i weld plentyn yn cerdded i'r ysgol agosaf yn hytrach na theithio oddi cartref ond dim ond os yw'r ysgol yn un dda. Ond mae'n rhaid i chi feddwl am ddyfodol eich plentyn.
Rwy'n poeni bod fy merch yn cael ei gwahanu oddi wrth ei ffrindiau, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siwr ei bod yn gallu cadw mewn cysylltiad â'i ffrindiau dros y penwythnos. Mae hi'n yn fodlon iawn â'r penderfyniad. Mae wedi treulio diwrnod yn yr ysgol ac wedi mwynhau ei hun yno. Fe wnaethon ni wneud yn siwr ein bod yn ei chynnwys hi yn y gwaith o wneud y penderfyniad. Mae fy mab, sy'n naw, hefyd yn awyddus i fynd i'r un ysgol.
A siarad yn gyffredinol, mewn byd delfrydol ni fyddai unrhyw wahaniaeth rhwng ysgolion, ond mae'r ardaloedd y derbynnir plant ohonynt yn effeithio ar yr ysgolion. Byddai'n braf gweld yr ysgol uwchradd leol yn gwasanaethu'r gymuned leol, ond rwy'n deall fod plant yn cael eu cludo mewn bysys o'r Barri, lle mae ysgolion uwchradd lleol a allai wasanaethu eu hanghenion gystal ag y mae Llanilltud yn ei wneud. Weithiau mae'n ymddangos bod plant sy'n gwneud yn dda yn gwneud hynny er gwaetha'r ysgol, nid oherwydd yr ysgol."
Anne, Llanilltud Fawr