Mae Duncan Owen, 29 oed, o Drenewydd, Powys, yn gweithio fel cyfrifydd yng Nghaerdydd. Dechreuodd ennill arian pan yn fachgen ifanc 11 oed.
"Dechreuais ennill arian pan o'n i tua 11 oed, yn labro ar fferm cymydog i mi. Gan mod i mor ifanc, dim ond dilyn y gweithwyr eraill o gwmpas o'n i'n ei wneud gan mwyaf ar y dechrau. Ro'n i eisiau bod yn ffermwr yr adeg hynny - ro'n i'n mwynhau'r gwaith caled a chael bod allan yn yr awyr agored ac ro'n i wrth fy modd yn gyrru'r tractorau. Ond doedd o fawr o hwyl pan oedd hi'n bwrw. Pan ydw i'n eistedd yn fy swyddfa nawr a hithau'n tywallt y glaw y tu allan, rydw i'n meddwl y gallai pethau fod yn waeth - allwn i fod yn ffermio.
Fe fum i'n gweithio yno hyd nes o'n i tua 18 oed, ar benwythnosau ac yn y gwyliau. Fy nghyflog cyntaf oedd dafad, a ges i am weithio am chwe mis a hynny bob penwythnos! Ar ôl i mi fod yn gweithio am flwyddyn, fe roddon nhw bedair dafad arall i mi. Roedd yna 1000 o ddefaid ar y fferm ac fe ges i ddewis fy rhai i - y pum dafad orau!
Felly ro'n i wedi ennill pum dafad mewn blwyddyn ac roedden nhw'n gymysg â gweddill y ddiadell ar y fferm, ond bod ganddyn nhw farc arnyn nhw i ddangos mai fy rhai i oedden nhw. Fe gawson nhw faharen, a phan ddaethon nhw ag wyn fe ges i gadw'r wyn fel fy nghyflog nesaf. Pan werthon ni nhw, fe ges i gadw'r arian - dwi'n meddwl mod i wedi cael tua £35 yr un amdanyn nhw ac roedd yna wyth oen i gyd.
Ar ôl hynny, fe ddechreuon nhw dalu tua £1.20 yr awr i mi. Fe fues i'n cynilo ac fe ddefnyddiais i'r arian i brynu fy motobeic cyntaf beic caeau pan o'n i tua 13. Ro'n i hefyd yn arfer cael coed tân am ddim i'm rhieni pan oedden ni'n llenwi sied y fferm, fe fyddwn i'n mynd â llwyth o goed tân gartre - byddai fy rhieni'n talu i mi amdanynt. Felly roedd hynny'n arian ychwanegol i mi.
Ffermio yn y bôn gadwodd fi yn y brifysgol er bod fy rhieni i'n rhoi tua £900 y tymor i mi. Fe ddefnyddies i'r arian o'n i'n ei gael am weithio ar y fferm ar gyfer fy mywyd cymdeithasol a dillad, ac yn y blaen.
Ro'n i wrth fy modd gyda'r gwaith - roedd e'n ddefnyddiol iawn oherwydd fe ddysges i sut i weithio. Fe ddysges i am werth arian yn ifanc iawn. Mae arian yn anodd i'w gael ac ro'n i'n teimlo mod i wedi llwyddo i wneud rhywbeth pan o'n i'n gallu fforddio prynu rhywbeth.
Roedd hi'n braf peidio â gorfod dibynnu ar fy rhieni i i brynu popeth i mi ac roedd e'n gwneud i mi feddwl ddwywaith cyn prynu pethau gan mod i'n gweithio mor galed i gael yr arian. Roedd y pethau y gwnes i gynilo er mwyn eu cael a'u prynu fy hun i gyd yn golygu mwy i mi rywsut."
Duncan, Trenewydd