Roedd Tim, (er nad dyna'i enw iawn), o Rydaman, yn 11 oed ac yn ei flwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd pan gafodd ei fwlio.
"Rwy'n cofio'r tro cyntaf y digwyddodd e mor dda, hyd yn oed nawr, bron naw mlynedd yn ddiweddarach. Ro'n i'n mynd ar y bws ac fe dynnodd rhywun gefn fy siwmper. Ro'n i'n un o'r bechgyn lleiaf, yn fach iawn o'm hoed mae'n debyg, ac roedden nhw'n tynnu nghoes i am hynny o hyd - roedd rhyw bwnio a phwtian yn digwydd byth a beunydd.
Y broblem oedd bod y person yma wedi tynnu gymaint ar fy siwmper i nes bu bron i mi â syrthio drosodd. Ro'n i wedi dychryn braidd. Fe edrychais dros fy ysgwydd a gweld y ddau fachgen hyn yn edrych arna i ac yn chwerthin oherwydd y ffordd ro'n i wedi ymateb. Roedden nhw'n codi ofn arna i, ond fe geisiais i beidio â dangos hynny ac fe es i ar y bws.
Fe weles i'r ddau fachgen ychydig o weithiau yn yr ysgol yn ystod fy wythnos gyntaf, ond doedden nhw ddim fel pe baen nhw wedi fy adnabod i. Ro'n i'n meddwl bod popeth yn iawn, ond wedyn ryw bythefnos ar ôl y digwyddiad cyntaf fe gornelon nhw fi yn nhoiledau'r bechgyn. Fe orfodon nhw fi i weld sut brofiad fyddai gweld y tu mewn i doiled. O hynny ymlaen ro'n i fel pe bawn i'n treulio mywyd yn cadw llygad am y "bully boys" fel ro'n i'n eu galw.
Sgil-effeithiau hyn oedd mod i wedi mynd i gadw pethau i mi fy hun a mod i'n ei chael yn anodd i ddod i adnabod pobl eraill yn fy nosbarth. Do'n i ddim eisiau i neb ddod i wybod beth oedd yn digwydd felly do'n i ddim yn siarad gyda'r plant eraill, ac ro'n i'n mynd o gwmpas ar fy mhen fy hun.
Y peth gwirioneddol drist oedd ein bod ni newydd symud o bentref gweddol fach i gyrion y dref oherwydd gwaith fy nhad. Roedd yr ysgol uwchradd ro'n i'n mynd iddi hi yn golygu nad o'n i yn yr un ysgol â llawer o'm ffrindiau, ac o edrych yn ôl rwy'n gallu gweld nad oedd gen i unrhyw rwydwaith cefnogaeth gwirioneddol i droi ato."
Cyngor
"Rwy'n gallu gweld erbyn hyn hefyd mod i wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â dweud wrth neb beth oedd yn digwydd. Ro'n i'n bêl-droediwr eitha' da ac fe welodd un o'r bechgyn hy^n yn y sgwad y ddau fachgen yn pigo arna i un diwrnod. Y cyfan oedd ei angen oedd ychydig o sylwadau sarhaus ac fe adawon nhw lonydd i mi. Allwn i ddim credu'r peth. Ro'n i wedi meddwl bod yn rhaid i mi ddioddef y peth. Rwy'n gwybod erbyn hyn nad oedd rhaid i mi a bod gen i ddewisiadau eraill - rwy'n credu bod llawer mwy o blant sydd mewn sefyllfa debyg yn awr, a byddwn yn eu hannog o ddifrif i ddefnyddio'r dewisiadau eraill hyn.
Fe wnes i gyfarfod bwli yn ystod fy wythnos gyntaf yn y brifysgol. Fe geisiodd e fy mychanu i oherwydd fy acen Gymreig - ond wnaeth e ddim llwyddo. Mae rhyw fath o beirianwaith amddiffyn fy hun wedi datblygu ynof fi ers fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd a does neb yn mynd i mwlio fi nawr. A wna i ddim sefyll yn ôl ac edrych ar bobl eraill yn cael eu bwlio ychwaith.
Doedd e ddim yn brofiad braf iawn, ond mae e'n sicr wedi fy ngwneud i'n gymeriad cryf."
Tim, Rhydaman