BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Rhieni sy'n cyfrannu eu harbenigedd i'r ysgol

Mae Gill O'Connor yn helpu yn Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe, yr ysgol y mae ei dwy ferch, Katie a Mairead, yn ei mynychu.

"Mae gen i ddau blentyn yn Ysgol Casllwchwr, Mairead a Katie. Mae hi'n ysgol wych ac mae'r prifathro Mr Davies yn falch iawn o'r plant ac yn rhoi llawer o anogaeth iddynt. Rwy'n credu bod hynny'n cael effaith gadarnhaol ar y rhieni hefyd, oherwydd mae pawb eisiau'r gorau i'w plant.

Ro'n i'n arfer gweithio fel cartograffydd ac wedyn fel teilwres. Gwniadwraig sydd wedi dysgu fy hun ydw i ac mae'n debyg y byddwn i'n disgrifio fy hun fel person eitha "artistig", ond dydw i ddim yn artist. Dwi'n berson eitha creadigol ac os ydw i'n meddwl y galla i wneud rhywbeth rwy'n rhoi cynnig arno.

Dyna sut y dechreuais i wneud pethau i'r ysgol a dweud y gwir. Roedd angen llawer iawn o waith ar y llenni yn y neuadd ac roedd hynny'n mynd i fod yn ddrud iawn. Roedd angen eu hail-leinio ac mae hynny'n costio llawer o arian, felly fe feddyliais i byddwn i'n rhoi cynnig arni.

Rwy'n aelod o'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ac ar un adeg ro'n i'n gwneud cinio yn yr ysgol, felly mae gen i gysylltiad â'r ysgol ers tro. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod rhieni yn chwarae eu rhan os ydyn nhw'n gallu. Mae gan bob un ohonom sgiliau gwahanol i'w cynnig ac ambell waith mae'n fater o roi amser o'r neilltu, os nad oes gennych chi amser, a rhoi rhywbeth yn ôl - oherwydd dy'ch chi ddim yn sylweddoli faint y byddwch chi'n ei gael ohono fe hyd nes i chi wneud hynny.

Y prosiect diwethaf y bum i'n ymwneud ag e oedd gwneud baner y bu dau o'r plant yn ei chario yn ystod gorymdaith i dynnu sylw at anghenion addysg gynradd yn Abertawe. Mae arwyddair yr ysgol arni: Rwy'n gwneud ac rwy'n deall (I do and I understand), ynghyd â bachgen a merch rwy i wedi eu gwneud ag appliqué.

Rwy i wedi gwneud ychydig o faneri gwahanol ar gyfer gwahanol bethau ac fe wnes i sachau storïau ar gyfer y plant unwaith. Fe wnes i nhw gartref ond y plant ddaeth â'r lluniau ar eu cyfer. Roedd y plant yn hoff iawn ohonyn nhw ac roedd hi'n braf eu bod nhw wedi gallu bod yn rhan o'r gwaith hefyd."

Cyngor

"Dydw i ddim yn gallu gwneud cymaint nawr oherwydd rwy'n gweithio ac mae honno'n sefyllfa y mae llawer o rieni'n cael eu hunain ynddi, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod chi'n gwneud yr hyn allwch chi pan allwch chi. Rwy'n credu bod fy mhlant i'n eitha balch o'r hyn rwy wedi ei wneud dros y blynyddoedd. Pan oedd y faner ddiwethaf yn barod ar gyfer yr ysgol, roedd y ddwy ohonyn nhw eisiau mynd â hi - oedd yn braf iawn!

Mae gan y rhan fwyaf ohonon ni ryw sgiliau y gallwn eu trosglwyddo ac mae ar ysgolion angen cymaint o help ag y gallan nhw ei gael y dyddiau hyn. Yn ein hysgol ni mae Mr Davies bob amser yn ddiolchgar os yw rhieni'n cynnig helpu ac rwy'n gwybod bod yr athrawon eraill yn gwerthfawrogi'r help. Rwy'n meddwl y byddai rhieni'n synnu beth maen nhw'n ei gael o'r gwaith hefyd."

Gill, Casllwchwr

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Cymraeg i Rieni
Ennill Arian
Defnyddio'r cyfrifiadur
Gwaith ar y Rhyngrwyd
Addysgu gartref
Yn yr ysgol
Dewis ysgol
Apelio am le ysgol
Helpu'r ysgol
Dechrau yn yr ysgol
Bwlio
Dewis Pynciau
Plant ag anghenion arbennig
Atgyfnerthiad Cadarnhaol
Nosweithiau rhieni
Helpu’r ysgol
Cyfrannu i fywyd ysgol
Helpu yn y dosbarth
Llywodraethwr Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy